Cynllun Gwella Gyrwyr Ifanc Pass Plus Cymru
Mae tîm Capita Symonds Road Safety mewn cysylltiad â Diogelwch Ffyrdd Cyrru, MAC Driver Training ac awdurdodau lleol ar draws Cymru oll yn hyrwyddo prosiect newydd pwysig o’r enw Pass Plus Cymru.
Mae’r prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i anelu at yrwyr ifanc a basiodd eu prawf gyrru yn ddiweddar, er mwyn eu helpu i wella sgiliau gyrru, cael profiad ychwanegol a chael disgownt ar eu hyswiriant car.
Fel rhan o’r prosiect mae gyrwyr ifanc yn gorfod mynychu sesiwn damcaniaeth tair awr gyda sesiwn wyth awr “ar-y-ffordd mewn-car” (wedi’i rannu rhwng dau yrrwr ) gyda Hyfforddydd Gyrru Cymeradwy sydd wedi cofrestru gyda Pass Plus.
Bydd pob gyrrwr sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i wella eu sgiliau gyrru ar y cynllun Pass Plus estynedig hwn. Mae’r cynllun yn cynnwys chwe modiwl a gynlluniwyd yn benodol, ar gyfer:
|
|
Mae hefyd yn cynnwys gyrru amddiffynnol, ymwybyddiaeth o beryglon, canolbwyntio, yfed ar ôl cymryd cyffuriau a gyrru ac yfed, agweddau diogel, cyflymder ac ymddygiad.
Oherwydd y caiff y sawl sy’n cymryd rhan eu dysgu gan hyfforddydd gyrru proffesiynol, byddant yn cael profiad ychwanegol gwerthfawr a sgiliau moduro cadarnhaol a fyddai fel arall yn cymryd amser maith iddynt eu dysgu.
“Pam y dylwn ystyried Pass Plus Cymru?”
Yn ogystal â gostwng risg cael damwain ffordd, bydd y cynllun yn eich galluogi i gael profiad a sgiliau gwerthfawr. Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd pob ymgeisydd yn cael Tystysgrif Cyrhaeddiad, yn ogystal â thystysgrif Pass Plus. Dim ond £40 yw cost y cwrs, a achredwyd gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA), disgownt sylweddol o’r gost arferol o rhwng £120 a £150.
I ymuno â’r cwrs rhaid i chi fod :-
- â thrwydded yrru lawn
- rhwng 17-25 oed
- yn byw yng Nghymru
Gyrwyr ifanc diogelach yng Ngwent
Caiff y sesiwn ei harwain gan Hyfforddydd Gyrru Cymeradwy a’r Swyddog Diogelwch Ffordd lleol, gyda mewnbwn gwerthfawr gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.





