Ardal Cynnwys Cywir
Safleoedd cysylltiedig
Ardal Prif Gynnwys

Diogelwch ffyrdd

image

Ymgyrch Teleffon Mudol

Bron â marw i gymryd yr alwad ?

Mae’n anghyfreithlon i ddefnyddio teleffon mudol â llaw wrth yrru ac mae’r gosb yn cynyddu. O’r 27ain o Chwefror 2007 byddwch yn derbyn dirwy o £60 a thri phwynt cosb ar eich trwydded. Gall pwyntiau olygu cost yswiriant uwch.

“Diffoddwch cyn gyrru i ffwrdd”

Mae gan deleffonau mudol nifer o fuddion. Maent yn darparu diogelwch a gallant fod o gryn gymorth mewn argyfwng, ond mae arbrofion wedi dangos nad yw gyrrwr yn gallu helpu rhag cael ei wrthdynnu gan alwad teleffon neu neges destun. Os ydych yn cael eich gwrthdynnu, ni fyddwch yn cofrestru peryglon neu’n adweithio’n gyflym. Nid yw sgwrs ar deleffon heb ddwylo yn llawer llai gwrthdynnol na defnyddio un sydd yn cael yn ei ddal.

Pwyntiau ar eich Trwydded

Nid oed yn rhaid i chi gael eich dal nifer o weithiau cyn eich bod yn cael eich diarddel. Os ydych yn cael chwe phwynt yn y ddwy flynedd gyntaf wedi i chi basio eich prawf, byddwch yn colli eich trwydded o dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd.   

Gallwch hefyd gael eich erlyn am ddefnyddio teleffon mudol di-law os nad ydych yn medru rheoli’ch car yn gywir. Mae’r gosb am yrru yn esgeulus neu yn beryglus wrth ddefnyddio teleffon yn gallu cynnwys cael eich diarddel, dirwy mawr a chael eich carcharu am hyd at ddwy flynedd.

Sut Mae’r Gyfraith yn Gymwys?

Wrth yrru, byddwch yn torri’r gyfraith os ydych yn codi teleffon i fyny neu yn defnyddio unrhyw fath o deleffon, hynny yw, neu sydd rhaid, ei ddal i’w weithredu. Er enghraifft, mae hyn yn golygu na allwch ddefnyddio eich teleffon mudol:-

 

  • Pan eich bod wedi eich dal gan oleuadau traffig.

  • Pan eich bod yn ciwio mewn traffig.

  • dderbyn galwad, llun neu neges destun neu i gael mynediad i’r Rhyngrwyd.

Gall cyflogwyr gael eu herlyn os ydych yn gofyn i weithwyr wneud neu dderbyn galwadau teleffon wrth yrru.

A Oes Yna Unrhyw Eithriadau  ?

Oes, gall gyrrwr alw 999 neu 112 mewn ymateb i wir argyfwng pan nad yw’n ddiogel neu’n anymarferol i wneud galwad.
 
Nid yw radio dwy ffordd yn dod o fewn y gyfraith yma ond mae dyfeisiadau eraill ar gyfer danfon neu dderbyn data yn cael eu cynnwys os ydynt yn cael eu dal wrth yrru.


Rydym ni gyd yn gyfrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd. Os ydych yn galw rhywun ac yn sylweddoli ei bod yn gyrru, gorffennwch yr alwad a threfnwch siarad gyda hwy’n hwyrach. Ni allwch weld y peryglon neu benderfynu ar amgylchiadau’r ffyrdd wrth siarad gyda’r gyrrwr, ac ni fyddwch am wrthdynnu’r gyrrwr pe baech yn y car.

 

Dogfennau Cysylltiedig
 Icon B4471 Swffryd Risk Assessment & Site Study (June 2007) - 6528.86kb
A risk assessment and site study for the B4471 to the north of Swffryd
 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk