Dim Yfed a Gyrru – Cystadleuaeth Poster
Llwyddiant gwych arall i lawer o bobl ifanc o Went, wrth i’r rhai a enillodd wobrau am eu posteri diogelwch ffordd ddod i hawlio eu gwobrau yn Neuadd y Sir, Cwmbran. Cyflwynwyd 944 o bosteri ar gyfer y gystadleuaeth gan 27 o ysgolion, i gyd i safon uchel.
Daeth llawer o bobl bwysig i’r noswaith gyflwyno yn cynnwys Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, Maer Caerffili a Maer Torfaen. Cyflwynodd Mick Giannasi, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, y gwobrau i’r disgyblion.
Yr enillydd Uwchradd oedd Brooke Owen o Ysgol Gyfun Glyncoed gyda phoster amserol yn atgoffa gyrwyr yn ystod tymor y Nadolig i gadw diod yn y botel a’r droed oddi ar y sbardun.
Yr enillydd Cynradd oedd Lauren Burch o Ysgol Gynradd Ystruth gyda’i llun ffraeth o ben-gliniau ceinciog, gan ein sicrhau nad llun rhai ei thad mohonynt gyda’r slogan "If you are wobbly at the knees, don't pick up the keys."
Derbyniodd yr enillwyr ym mhob categori siec am £100, gyda’r enillwyr agos yn ennill £50, ac ysgolion yr enillwyr hefyd yn ennill £50.
Dywedodd Mr Giannasi fod yr holl bosteri o safon ragorol a’i fod yn falch i weld fod cynifer o bobl ifanc yn cymryd y neges bwysig hon mor ddifrifol. Gobeithiai y byddai’r negeseuon grymus yn darbwyllo gyrwyr na fyddid yn goddef yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig, neu’n wir ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.




