Diogelwch Ffyrdd - Gwregysau Diogelwch

Roadside Seat Belt checks

YMGYRCH GWREGYSAU
Mewn wythnosau diweddar bu Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mewn cysylltiad â Swyddogion Diogelwch Ffordd awdurdodau lleol, yn cynnal ymgyrch gwregysau/ffonau symudol.
Bu’r heddlu yn stopio gyrwyr a welwyd heb fod yn defnyddio eu gwregysau neu’n defnyddio ffôn symudol wrth yrru. Cafodd y gyrwyr wedyn  y dewis o gael rhybudd dirwy sefydlog (a’r 3 pwynt ar eu trwydded os oeddent yn defnyddio ffôn symudol) neu fynd i Orsaf Dân leol i gael cyflwyniad byr ar ganlyniad posibl eu gweithredoedd.
Cafodd cyfanswm o 78 o yrwyr eu stopio yn ystod yr ymgyrch: 76 am beidio gwisgo gwregys a 2 am ddefnyddio ffôn symudol. Dynion oedd mwy na 75% o’r rhai a stopiwyd, ac roedd 60% yn 25 oed neu drosodd.
Caiff y math yma o ymgyrch ei hailadrodd yn y dyfodol gan iddi fod yn llwyddiannus iawn.
Gyrwyr Dosbarthu:
Newidiodd y gyfraith ar wregysau ar gyfer gyrwyr a theithwyr faniau ar 1 Mawrth 2005. Arferai gyrwyr dosbarthu gael eu heithrio rhag gwisgo gwregys wrth wneud dosbarthiadau ‘lleol’, er cyn y newid hwn nid oedd uchafswm pellter wedi’i bennu ar gyfer dosbarthiadau ‘lleol’.
Nid yw’r eithriad ar wregysau ar gyfer gyrwyr dosbarthu bellach ond yn weithredol wrth deithio 50m neu lai rhwng dosbarthiadau neu gasgliadau.                   
Eithriadau rhag gwisgo gwregys
Medrwch gael eich eithrio rhag gwisgo gwregys ar seiliau meddygol. Bydd eich meddyg yn rhoi “Tystysgrif Eithriad rhag Gwisgo Gwregys Gorfodol” os penderfynant nad yw’n addas i chi wisgo gwregys ar seiliau meddygol. Rhaid i chi ddangos hyn os yw’r heddlu yn gofyn i chi .
Nid oes unrhyw eithriadau eraill perthnasol o’r gofyniad i wisgo gwregys lle mae un wedi’i ffitio.