Diogelwch Ffyrdd - Megadrive

Image

 

MEGADRIVE 2008

Cynhaliwyd rhaglen addysg cyn-gyrru Megadrive  unwaith eto eleni yng Nghlwb Rygbi Tredegar ar gyfer myfyrwyr yng Ngholeg Gwent, Glyn Ebwy. Wedi’i ariannu gan Grant Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fe’i cynhaliwyd gyntaf yn 1995  a derbyniodd Wobr y Tywysog Michael am Ddiogelwch Ffordd.
Dangosodd gwerthusiad ar sawl lefel fod Megadrive yn ddull effeithiol iawn o ddatblygu agwedd gadarnhaol at gyfrifoldeb gyrru car.
Mae Megadrive yn cynnwys cyflwyniad rhyngweithiol a fynychir gan bob myfyriwr a ddilynir gan hyd at naw gweithdy yn cynnwys y pynciau dilynol:- alcohol; cyffuriau a gyrru; achosion damweiniau a risg; cymorth cyntaf ar unwaith; prynu ceir ail law; arfer gyrru a gyrru ymarferol gyda hyfforddydd gyrru cymeradwy mewn car gyda dwy ffynhonnell rheoli.


Mae myfyrwyr yn ymweld â gorsafoedd gwaith mewn grwpiau o dri, heblaw'r gyrru ymarferol lle mae’n un i un. Ar ôl 15 munud symudant ymlaen i’r orsaf waith nesaf ac yn y blaen nes y byddant wedi mynd i bob un.

Ar ddiwedd y sesiwn, bydd pob myfyriwr yn cwblhau gwerthusiad rhyngweithiol. Cafodd pob gorsaf waith eu cynllunio a’u staffio gan arbenigwyr yn eu maes e.e. Swyddogion Diogelwch Ffordd a Thân ac Achub, y Groes Goch, Safonau Masnach, Sefydliad Gyrwyr Uwch, Asiantaeth Safonau Gyrru, Fusion a Drugaid.