Mae Uned Cludiant Gwent yn dîm o swyddogion cludiant yn Nhredegar, sy’n gyfrifol am gydlynu cludiant teithwyr ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn cynnwys:
Caffael a Monitro Gwasanaethau Bws Lleol dan Gontract
Mae gan Uned Cludiant Gwent gyfrifoldeb am gaffael a monitro gwasanaethau bws lleol a gefnogir yn ariannol dan Ddeddfau Trafnidiaeth 1985 a 2000 ar ran CBS Blaenau Gwent, CBS Torfaen a Chyngor Sir Fynwy. Mae’r rhain yn wasanaethau nad yw’r rhwydwaith bws masnachol yn eu darparu ond a ystyrir gan yr awdurdodau lleol perthnasol i fod yn deithiau cymdeithasol angenrheidiol, cyfanswm o dros 80 o gontractau. Mae monitro hyn i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd y gwasanaethau yn elfen allweddol o ymagwedd gydlynol at drafnidiaeth gyhoeddus.
Cynhyrchu Cyhoeddusrwydd – Cynhyrchu Amserlenni Bysus, Canllawiau Cludiant a Thaflenni
Rhoddodd Deddf Trafnidiaeth 2000 gyfrifoldeb i awdurdodau lleol am gynhyrchu “strategaeth gwybodaeth” yng nghyswllt trafnidiaeth gyhoeddus. Dan y trefniadau hyn mae Uned Cludiant Gwent yn cynhyrchu amserlenni safleoedd bws, canllawiau cludiant a chynhyrchu taflenni ar ran y tri awdurdod i annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ym mhob rhan o’r rhanbarth. Mae buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith bysus mewn blynyddoedd diweddar yn golygu fod Uned Cludiant Gwent yn gyfrifol am gynhyrchu amserlenni safleoedd bws ar gyfer 1,600 arosfan yn ei ardal.
Gweinyddu Cynllun Tocynnau Consesiwn Gwent (Pas Bws am Ddim) yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Awdurdod Trafnidiaeth Gwent yn gweinyddu’r cynllun ar ran y tri awdurdod a chyhoeddir dros 48,000 o basiau bws, gyda 16,000 ohonynt wedi eu dosbarthu i breswylwyr Blaenau Gwent. Mae’r Pas yn caniatáu deiliaid i deithio am ddim ar bob gwasanaeth bws cofrestredig lleol ledled Cymru a theithio ar wasanaethau uniongyrchol i rai lleoliadau yn Lloegr. Mae’r cynllun yn costio dros £1.4 miliwn ym Mlaenau Gwent yn unig a thros £44 miliwn yng Nghymru i gyd.
Darparu Cyngor Proffesiynol a chanllawiau ar Faterion Cysylltiedig â Thrafnidiaeth Teithwyr
Mae gan Uned Cludiant Teithwyr Gwent dîm aml-sgil o swyddogion sydd ag amrediad o gymwysterau academaidd a phroffesiynol yn amrywio o drafnidiaeth i reolaeth ariannol a dylunio graffig. Mae gan ddau aelod uwch o staff dros 25 mlynedd o brofiad yr un o weithio o fewn y maes cludiant ac mewn amgylchedd llywodraeth leol. Caiff sgiliau a phrofiad y staff eu defnyddio’n lleol ac yng nghonsortiwm trafnidiaeth rhanbarthol SEWTA (Cynghrair Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru) i roi cyngor ac arweiniad ar gynlluniau trafnidiaeth strategol ledled Cymru.




