Termau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig y defnydd o’r wefan hon yn ddarostyngedig i’r Termau ac Amodau dilynol:

1. Mae eich defnydd o’r safle hon yn cynnwys eich derbyniad o’r termau ac amodau, sydd yn dod i rym ar y dyddiad i chi ddefnyddio’r safle am y tro cyntaf. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cadw’r hawl i newid y termau ac amodau yma ar unrhyw adeg drwy bostio’r newidiadau ar lein. Mae eich defnydd o’r safle wedi hyn yn cynnwys derbyniad ar eich rhan o’r termau ac amodau fel ag y maent wedi eu newid.
  
2. Mae defnydd o’r wefan hon, a’r wybodaeth sydd arni, ar gyfer defnydd personol ac nid masnachol. Ni all ail gopïo, ailgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawr lwytho, postio, darlledu neu drosglwyddo mewn unrhyw fodd y deunydd yma mewn unrhyw ffordd oni bai ei fod ar gyfer eich defnydd personol o fewn y cartref. Rhaid i chi gael caniatâd y Cyngor o flaen llaw am unrhyw ddefnydd arall. 
   
3. Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r safle hon ar gyfer dibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd na sydd yn tramgwyddo, cyfyngu ar neu yn atal defnydd a mwynhad person arall, neu yn achosi blinder, anghyfleustra, neu ofid diangen i berson arall. Mae cyfyngiad neu ataliad o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddwyn sydd yn anghyfreithlon, yn enllibus neu yn dreisgar neu y gall achosi poen neu gyfyngder, anghyfleustra, niwsans neu fygythiad i unrhyw berson ac mae’r trosglwyddiad o gynnwys brwnt, bygythiol neu ymosodol neu atal llif deialog arferol o fewn y safle gwe.
   
4. Mae’r wefan yn cynnwys linciau i safleoedd eraill, efallai nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwen. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau yma ac nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd y gall godi o ddefnyddio’r fath safleoedd.
  
5. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymdrechi i sicrhau bod yr holl wybodaeth a deunydd ar y wefan hon yn gywir ond nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw gamgymeriadau neu wall, ac nid yw’r Cyngor hefyd yn gwarantu y gellir defnyddio’r safle hon heb doriadau. Mae’r Cyngor yn darparu’r deunydd sydd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon ar y sail ei fod yn diarddel pob gwarant mewn perthynas â’r deunydd, p’un ai ei fod wedi ei fynegi neu ei awgrymu. Nid yw’r Cyngor, ei weithwyr, ei gyflenwyr a chyflenwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled uniongyrchol neu anuniongyrchol, ôl-ddilynol neu achlysurol o fusnes, refeniw neu enillion neu golled arbennig yn deillio o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan.
   
6. Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau deallusol gan gynnwys hawlfraint a hawl bas data ar safle gwe Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’i gynnwys yn eiddo neu wedi ei drwyddedu i’r Cyngor sydd fel arall yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor fel y caniateir yn nôl y gyfraith.
   
7. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yr hawl i olygu, gwrthod i bostio, neu ddileu unrhyw ddeunydd sydd yn cael ei gyflwyno i’r safle hon. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol ac nid yw fel arall yn derbyn atebolrwydd am unrhyw ddeunydd sydd yn cael ei bostio ar y wefan oni bai ei fod wedi ei bostio  yno gan y Cyngor. Mae unrhyw farn, cyngor, datganiadau, cynigion neu wybodaeth arall sydd yn cael ei fynegi neu sydd yn cael ei wneud ar gael gan bersonau eraill ar safle’r Cyngor yn eiddo i’r personau eraill sydd wedi eu postio. Nid yw’r Cyngor yn cefnogi neu yn gyfrifol am ba mor gywir yw’r deunydd ac nid yw chwaith yn atebol am ddeunydd personau eraill.
   
8. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn rheoli'r termau ac amodau yma. Bydd unrhyw ddadlau a fydd yn deillio o’r termau ac amodau yma yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd barn Cymru a Lloegr.
   
9. Os ydych yn darganfod rhywbeth sydd yn peri gofid yna e-bostiwch Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (mae manylion yn cael eu darparu yn y Wybodaeth Gyswllt isod).
   
10. Os ydych yn anfodlon gydag unrhyw ran o’r wefan hon neu gydag unrhyw ddarn o’r termau ac amodau, yna peidiwch â defnyddio’r wefan yn syth.
   
Os penderfynir bod un o’r termau ac amodau uchod yn anghyfreithlon neu yn annilys neu fel arall na ellir ei orfodi, yna i’r graddau y mae felly, bydd yn cael ei ynysi a’i ddileu o’r cymal, a bydd gweddill y termau a’r amodau yn parhau yn gymwys.
   
 
Manylion Cyswllt
 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk