Cyfryngau cymdeithasu yw’r ffordd newydd i gyfathrebu a rhannu gwybodaeth ymhlith ffrindiau, teulu, a chydweithwyr ar-lein, yn ogystal â chwrdd â phobl gyda diddordebau tebyg.
Defnyddir safleoedd cyfryngau cymdeithasu yn rheolaidd gan filiynau o bobl dros y byd i gyd. Yn awr, gallwch gael hyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar y safleoedd canlynol:
- Flickr
- YouTube
- Delicious

Mae Facebook yn wefan cyfrwng cymdeithasol sy’n galluogi defnyddwyr i ymuno â rhwydweithiau a drefnir fesul dinas, gweithle, ysgol a rhanbarth, i gysylltu a rhyngweithio gyda phobl eraill. Gall pobl hefyd ychwanegu ffrindiau ac anfon negeseuon atynt, a rhoi diweddariadau ar eu proffil personol i roi gwybod i’w ffrindiau amdanynt.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar Facebook – Ymunwch i ddarllen porthiant newyddion, RSVP i ddigwyddiadau lleol, edrych drwy luniau a gwylio fideos

Mae Flickr yn safle rhwydweithio cymdeithasol pwerus sy’n defnyddio lluniau i uno pobl.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar Flickr – Edrychwch drwy ffrwd luniau Blaenau Gwent ac ychwanegwch eich hoff luniau o Flaenau Gwent at ein grwp Ymweld â Blaenau Gwent

Mae Twitter yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a micro-blogio sy’n galluogi i’w ddefnyddwyr anfon a darllen diweddariadau defnyddwyr eraill (a adnabyddir fel trydar), sy’n negeseuon testun hyd at 140 o gymeriadau. Gall pobl gael mynediad at ddiweddariadau Twitter naill ai drwy wefan Twitter neu drwy amrywiaeth eang o raglenni a grëwyd yn benodol i weld trydar.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar Twitter - Newyddion diweddaraf, swyddi a digwyddiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Mae YouTube yn wefan rhannu fideos lle gall defnyddwyr uwchlwytho, gweld, rhannu a rhoi sylwadau ar glipiau fideo.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar YouTube – Amrywiaeth eang o glipiau fideo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Dewch i wybod mwy

Mae Del.icio.us yn wasanaeth llyfrnodi cymdeithasol rhad ac am ddim sy’n galluogi pobl i ddarganfod, trefnu a rhannu eu hoff ddolenni rhyngrwyd. Rydym yn defnyddio Del.icio.us i ddarparu ffordd gyflym, hawdd i ddarganfod gwybodaeth am ein gwefan. Pan ewch i’n tudalen gyfrif Del.icio.us fe welwch restr o dudalennau poblogaidd ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Pam? Am ein bod eisiau ei gwneud yn haws i chi ddarganfod cynnwys penodol ar y wefan.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar delicious




