Y Cyngor yn cyhoeddi rhybuddion am alwyr ffug

23 August 2012

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn rhybuddio pobl leol i gadw golwg am alwyr ffug sy'n cymryd arnynt eu bod o'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Bu galwyr ffug yn ffonio pobl yn yr ardal, gan honni bod yn swyddog cofrestru etholiadol mewn ymgais i gael gwybodaeth bersonol gan bobl.

Nid yw swyddogion na chanfaswyr o'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn cysylltu gyda phreswylwyr dros y ffon.

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd canfaswyr yn galw mewn cartrefi nad ydynt wedi dychwelyd eu ffurflen cofrestri etholiadol. Bydd canfaswyr yn dangos bathodyn gyda'u lluniau arnynt, a bydd ganddynt gopi o'r ffurflen cofrestru etholiadol. Gofynnir i breswylwyr wirio a llofnodi'r ffurflen.

Cynghorir preswylwyr sy'n gofyn am fanylion personol ar gyfer y gofrestr etholiadol i beidio roi unrhyw wybodaeth, a hysbysu'r Cyngor drwy ffonio 01495 355087/355090.