Canlynaidau Lefel A Blaenau Gwent – y gorau erioed

16 August 2012

Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Blaenau Gwent wrth iddynt ennill y canlyniadau Lefel A gorau mewn 10 mlynedd!

Cafodd 100% o fyfyrwyr yn y fwrdeisdref o leiaf un pas gradd A - E eleni.


Enillodd 82.2% o fyfyrwyr o leiaf un radd A* - C o gymharu gyda 78.6% y llynedd.

 


Enillodd 93.3% o fyfyrwyr ddau bas neu fwy ar raddau A* - E sy'n welliant amlwg ar 86.1% yn 2011.


Safodd 163 o ddisgyblion arholiadau Lefel A yn ysgolion Blaenau Gwent eleni gyda 18.4% ohonynt yn ennill gradd A* neu A. Roedd 63.5% o'r holl geisiadau ar radd C neu uwch, cynnydd o 1.1% ar y llynedd.


Dywedodd y Cynghorydd Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:
"Da iawn chi   holl fyfyrwyr Lefel A ar eich llwyddiant. Mae'n wych gweld gwaith caled yn talu ar ei ganfed! Hoffwn longyfarch ein holl bobl ifanc a dymuno’r gorau oll iddynt ar gyfer y dyfodol. Hoffwn hefyd ddiolch i'n staff ysgol a llywodraethwyr am eu hymroddiad parhaus i addysg ein pobl ifanc yma ym Mlaenau Gwent.
"Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu ein bod ar y trac i sicrhau canlyniadau hyd yn oed well ar gyfer dysgwyr Blaenau Gwent. Mae codi safonau addysgol yn un o brif flaenoriaethau'r cyngor ac er i ni wneud cynnydd, gwyddom fod angen gwneud mwy. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein strategaeth i drawsnewid gwasanaethau addysg yn y dyfodol fel y bydd hyd yn oed fwy o bobl yn cyflawni eu potensial llawn yn y dyfodol."

Ychwanegodd Sylvia Lindoe, Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden Cyngor Blaenau Gwent:
"Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr! Rydym yn gweitho gydag ysgolion, teuluoedd a phartneriaid i gyflawni gwelliannau pellach yn ein safonau addysgol. Bydd llawer o ddatblygiadau cyffrous yn dod ar gael ym mis Medi. Mae buddsoddiadau miliynnau o bunnau mewn cyfleusterau addysgol a bydd Hafan Dysgu a Blaenau Gwent a Chymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn agor yn fuan. Hoffwn ddymuno pob lwc i fyfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen i'w gyrfa yn y dyfodol."

O fis Medi ymlaen, bydd Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysgol ar gyfer de ddwyrain Cymru. Ffurfiwyd hyn gan gynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Bydd yn rhoi lefelau uwch o her a chefnogaeth i ysgolion ac yn gweithio gyda llywodraethwyr, arweinwyr ysgol a staff i wella profiadau dysgu plant a phobl ifanc a thrwy hyn yn hybu eu llwyddiant mewn arholiadau cenedlaethol a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.

Bydd Hafan Dysgu Blaenau Gwent yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl o bob oedran pan fydd yn agor ei ddrws ym mis Medi. Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr fydd yr ysgol a gynhelir gyntaf ar gyfer disgyblion 3-16 oed yng Nghymru.

I ddarganfod mwy am strategaeth y Cyngor i drawsnewid gwasanaethau addysg a gwella canlyniadau addysgol ar gyfer pob dysgwr, ewch i  www.blaenau-gwent.gov.uk.