Gwasanaeth gwaith allanol llyfrgell Blaenau Gwent

06 August 2012

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi lansio gwasanaeth newydd dosbarthu i gartrefi fel rhan o ad-drefnu ei waith allanol ar gyfer llyfrgelloedd.

Mae creu cymuned lewyrchus a hygyrch yn un o themâu strategaeth gymunedol Blaenau Gwent. Gall cwsmeriaid sy'n methu mynd i'w llyfrgell leol oherwydd salwch neu anabledd yn awr ddewis eu llyfrau drwy'r gwasanaeth dosbarthu i gartrefi a chânt eu dosbarthu i'w drws.

Lansiwyd y tîm gwaith allanol a'r gwasanaeth dosbarthu cartref gan y Cynghorydd Graham Bartlett, Maer Blaenau Gwent ddydd Gwener 3 Awst, yn y Ganolfan Ddinesig, gyda'r Cynghorydd David Wilkshire, Aelod Gweithredol Hamdden a Phobl Ifanc.

Mae bellach gerbydau gwasanaeth dosbarthu i gartrefi yn gwasanaethu pob rhan o Flaenau Gwent ar rota tair-wythnos. Gellir dewis llyfrau a llyfrau ar gryno ddisg a DVD ar gyfer cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion a bydd y tîm wedyn yn dosbarthu'r eitemau'n uniongyrchol i gartref y cwsmer, yn cynnwys llety gwarchod a chartrefi nyrsio. Gellir hefyd atgyfeirio pobl gyda nam ar eu golwg i'r gwasanaeth a gallant dderbyn llyfrau ar CD neu gefnogaeth i ddefnyddio gwasanaethau a gynigir gan yr RNIB neu Talking Newspapers UK.

Caiff pwyntiau mynediad llyfrgell eu datblygu hefyd ar draws y fwrdeisdref o fewn canolfannau cymunedol. Mae chwe phwynt mynediad ar hyn o bryd ym Mrynithel, Llanhiledd, Cwrt Roderick Hill, Swffryd, Trefil a Waundeg  oherwydd y nifer fawr o gyn gwsmeriaid y llyfrgell symudol sy'n byw yn yr ardaloedd hyn. Datblygir pob canolfan i weddu i anghenion y gymuned leol ond bydd gan bob un ohonynt ddetholiad o lyfrau ac yn derbyn ymweliadau rheolaidd gan staff allanol y llyfrgell, yn cynnwys Swyddog Gwaith Allanol a'r Swyddog Plant.

Derbyniodd Llyfrgelloedd Blaenau Gwent gyfraniad caredig iawn er cof am Mrs Iris Rees, cwsmer dosbarthu cartref, a fu farw gwaetha'r modd  ym mis Mawrth eleni. Defnyddiwyd y cyfraniad i brynu nifer o lyfrau siarad a gyflwynwyd i'r tîm allanol gan y maer yn ystod y lansiad.

Os hoffech dderbyn Gwasanaethau Dosbarthu i'r Cartref neu os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Gwaith Allanol ar  07866 749592 os ydych yn byw yn Nhredegar neu Lynebwy neu  07866 747664 os ydych yn byw yn Abertyleri, Blaenau, Brynmawr, Beaufort neu Cwm.

Os hoffech wybod mwy am y pwyntiau mynediad lleol, cysylltwch â'ch llyfrgell leol i gael gwybodaeth bellach.