01 August 2012
Caiff pobl Blaenau Gwent eu hannog i ddweud eu barn ar wasanaethau ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Ym mis Mehefin, dechreuodd y Cyngor ofyn am sylwadau fel rhan o'r broses o foderneiddio'r gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws Blaenau Gwent. Daw'r cyfnod ymgynghori hwn i ben ar ddydd Gwener 10 Awst.
Dywedodd Sylvia Lindoe, Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden Blaenau Gwent: "Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i wella canlyniadau ar gyfer pob dysgwr ym Mlaenau Gwent. Maes pwysig y mae'n rhaid i ni ei wella yw ein gwasanaethau ar gyfer dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol - tanlinellodd Estyn hyn yn ei arolwg o wasanaethau'r awdurdod gwasanaeth y llynedd. Mae angen moderneiddio ac ailstrwythuro'r gwasanaeth i roi gwell gwasanaeth i blant a phobl ifanc Blaenau Gwent.
"Rwy'n hollol glir nad ymarferiad i dorri costau yw hyn. Mae hyn ynglyn â gwneud yn sicr ein bod yn darparu gwasanaeth gwell a mwy effeithiol i blant a phobl ifanc gyda sy'n diwallu eu hanghenion hwy a'u teuluoedd."
Byddai'r symud i foderneiddio gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn sicrhau fod cynifer o blant yn dysgu yn eu cymuned leol, wrth ochr eu ffrindiau. Mae cynhwysiant yn rhoi manteision cymdeithasol ac academaidd i ddisgyblion gyda a heb Anghenion Dysgu Ychwanegol. Lle mae gennym ddarpariaeth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anawsterau mwy cymhleth, rydym eisiau gwneud yn sicr fod gan y plant hefyd fynediad i weithgareddau prif ffrwd. Mae gormod o leoedd gwag yn rhai o'r unedau Anghenion Dysgu Ychwanegol presennol.
Dechreuodd yr ymgynghoriad anffurfiol ar un elfen o'r ailstrwythuro ar 15 Mehefin 2012 ac mae'n gofyn am sylwadau ar y cynnig i gau'r uned Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gynradd Bryngwyn o 31 Awst 2013.
Mae'r Cyngor yn dymuno clywed gan ddisgyblion, rhieni, aelodau'r gymuned ac eraill sydd â diddordeb fel rhan o'r broses o foderneiddio'r gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws Blaenau Gwent.
Mae pob dogfen yn gysylltiedig â'r adolygiad o Anghenion Dysgu ychwanegol, yn cynnwys y ddogfen ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol, ar gael yn www.blaenau.gwent.gov.uk, dan Ysgolion 21ain Ganrif.




