Cyngor yn rhybuddio am beryglon baco ffug ar ôl dirwyo mân-werthwr lleol

01 June 2012

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn rhybuddio pobl leol am beryglon baco ffug, ar ôl i ddyn lleol gael ei erlyn yn llwyddiannus am werthu baco ffug o'i siop yn Abertyleri.

Plediodd Martin Turner, perchennog Martin Turner Mini Wholesalers, 34  Stryd yr Eglwys, yn euog i ddau gyhuddiad yn Llys Ynadon y Fenni ar 28 Mai. Gorchmynnwyd ef i dalu £565 mewn dirwyon a chostau.
 
Canfuwyd 63 cwdyn o faco Golden Virginia ffug yn y siop, yn ogystal â leitars sy'n edrych fel tegan a waherddir rhag cael eu gwerthu oherwydd eu bod yn ddeniadol i blant.
 
Dywedodd Steve Jones, Pennaeth Safonau Masnachu Cyngor Blaenau Gwent: "Mae'n bwysig bod pobl yn adnabod y peryglon sy'n gysylltiedig gyda baco ffug. Ni chaiff lefelau cynhwysion niweidiol yn y math hwn o gynnyrch eu rheoleiddio a gall ei ysmygu achosi difrod sylweddol i iechyd.
 
"Mae gan y Cyngor ymroddiad i ostwng nifer y nwyddau peryglus a ffug sydd ar gael yn yr ardal, a gallai unrhyw un a geir yn cyflenwi nwyddau o'r fath wynebu gweithredu cyfreithiol".
 
Darganfuwyd y cynnyrch gan Swyddogion Safonau Masnach ar 6 Mehefin 2011 fel rhan o brosiect a ariannir gan yr Adran Iechyd.