29 May 2012
Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cyflwyno ymwelwyr o'i dref efell yn yr Almaen i gynlluniau adfywio ac addysg cyffrous yn yr ardal.
Croesawodd Arweinydd y Cyngor ymwelwyr o dref Oberhausen-Rheinhausen yn yr Almaen a mynd â hwy i'r Gweithfeydd: Glynebwy ddydd Llun 28 Mai lle gwelodd y grwp amrywiaeth o brosiectau adfywio ac addysg.
Roedd yr ymweliad yn nodi 25ain pen-blwydd gefeillio Oberhausen-Rheinhausen a Blaenau Gwent. Mae Oberhausen-Rheinhausen yn rhanbarth Karlsruhe yr Almaen. Mae cysylltiadau cryf rhwng y ddwy ardal, yn arbennig drwy i bobl ifanc gymryd rhan mewn gwersyll ieuenctid rhyngwladol blynyddol.
Dywedodd y Cyng Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:
"Roedd yn bleser cwrdd â'n cydweithwyr o Oberhausen-Rheinhausen.
“Fe wnes fwynhau trafodaethau cadarnhaol am adfywio ac addysg gyda'n hymwelwyr. Fe wnaeth maint y gwaith adfywio a'r buddsoddiad yn safle'r Gweithfeydd argraff fawr arnynt, ac felly hefyd strategaeth y Cyngor i adeiladu dyfodol mwy egnïol i'w chymunedau. Edrychaf ymlaen at gryfhau cysylltiadau rhyngom ymhellach."
Treuliodd y gwesteion amser hefyd ym Mharlwr y Maer a chyfnewid cofroddion o'r ymweliad gyda Graham Bartlett, Maer Blaenau Gwent a pherthynas a'r Faeres Norma Bartlett.
Gall pobl leol a hoffai ddysgu mwy am gynlluniau gefeillio ym Mlaenau Gwent gysylltu ag Angela O'Leary ar 01495 355090.




