Gyda Blaenau Gwent yn paratoi i groesawu'r Fflam Olympaidd mewn llai na thair wythnos, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, Pentref Olympaidd ac arddangosfa unigryw.
Bydd taith gyfnewid y Fflam Olympaidd yn cyrraedd Brynmawr ddydd Gwener 25 Mai a chaiff ei chario drwy'r dref. Disgwylir i dorfeydd o bob rhan o'r ardal ddod draw a mwynhau'r olygfa, adloniant byw a Phentref Olympaidd y dref. Caiff pobl eu hannog i ymgynnull yn y strydoedd y bydd y Fflam yn teithio arnynt erbyn 12 canol - dydd - gyda'r golygfeydd gorau i'w cael yn Stryd y Brenin a Stryd Beaufort - gan y disgwylir i gludwyr y Fflam gyrraedd y dref tua 12.40.
Bydd Gwent Music Big Band yn agor yr adloniant ar y prif lwyfan o ganol-dydd, a gall y torfeydd fwynhau mwy na wyth o berfformiadau ac arddangosiadau byw - yn cynnwys dawns stryd a karate - yng nghanol y dref hyd at 4.30pm.
Bydd mwy na 60 o ddisgyblion Ysgol Rhiw Beaufort yn perfformio ar y llwyfan yng nghanol y dref. Dywedodd Karen Jenkins, Dirprwy Bennaeth yr ysgol: "Rydym yn awyddus i'n disgyblion fanteisio ar bob cyfle i gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd mewn unrhyw ffordd y gallant. Mae'n fwy na thebyg mai'r unig gyfle a gânt fydd gweld y fflam Olympaidd a bydd cymryd rhan wrth ddiddanu'r gynulleidfa yn golygu y bydd hyn yn byw yn eu cof gan y byddant yn teimlo'n rhan arbennig o'r diwrnod."
Bydd y digwyddiadau ym Mhentref Olympaidd Blaenau Gwent, fydd yn seiliedig yn Ysgol Pen y Cwm, yn dechrau am 1pm ac yn parhau hyd 7pm. Yn ogystal â pherfformiadau byw yn cynnwys dawns, canu corawl a rhedeg rhydd, bydd pobl leol hefyd yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau megis wal ddringo, maes pêl-droed chwythu-lan yn ogystal â chelf a chrefft.
Bydd Côr Ysgol Cwm yn perfformio yn y Pentref Olympaidd. Dywedodd Rhian Astley, Pennaeth yr ysgol: "Rydym yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon a hefyd yn cefnogi talentau artistig yn gryf. Mae Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd ym Mlaenau Gwent yn gyfle unigryw i ni gyfuno'r ddau, a dyna pam ein bod mor awyddus i gymryd rhan."
Gall pobl na all aros i ymgolli mewn pethau Olympaidd fwynhau arddangosfa unigryw yn Llyfrgell Brynmawr, sy'n agor heddiw ac yn rhedeg hyd 25 Mai. Mae arddangosfa Dilyn y Fflam yn ymchwilio etifeddiaeth falch Cymru yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd, o safbwynt y Cymry ysbrydoledig a fu'n falch i gynrychioli eu gwlad.
Me Llyfrgelloedd Blaenau Gwent hefyd yn darparu chwe gweithdy Dilyn y Fflam ar gyfer plant ysgol lleol rhwng 9 a 11 oed. Bydd y gweithdy yn mynd â disgyblion i wlad Groeg hynafol, lle byddant yn ymchwilio gwreiddiau'r gemau Olympaidd, dysgu stori'r fflam Olympaidd, dilyn datblygiad y gemau Paralympaidd a dathlu straeon ysbrydoledig Cymry yn y chwaraoen. Bydd y gweithdai hefyd yn ymchwilio themâu allweddol megis rhyngwladoldeb, balchder cenedlaethol, twyllo a chwarae teg.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am daith gyfnewid y Fflam Olympaidd a'r rhaglen ddigwyddiadau ar gael ar-lein yn www.blaenau-gwent.gov.uk.




