Tyfu dail heb eu hail gyda chompost cartref medd cyngor bwrdeisdef sirol blaenau gwent

26 April 2012

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent wedi ymuno â chynllun ‘Craff am Wastraff’ i annog trigolion yr ardal i ddathlu Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Gompost trwy fanteisio ar y cyfle i gymryd rhan a rhoi cynnig ar gompostio eu hunain.

Cynhelir Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Gompost o ddydd Sul 6 Mai i ddydd Sadwrn 12 Mai. Nod yr wythnos yw dangos i bobl pa mor hawdd yw compostio a’r canlyniadau gwych sy’n bosib wrth droi eich gwastraff organig yn gompost cartref llawn maetholion.

Mae gwastraff organig ‘gwyrdd’ neu o’r ardd fel toriadau gwair, dail a brigau yn firoddiraddadwy ac yn pydru’n hawdd a naturiol mewn bin compost.

Yn lle anfon eich toriadau gwair a thociadau i safleoedd tirlenwi gallwch eu defnyddio i greu compost cyfleus am ddim i gyfoethogi borderi a lleiniau llysiau, plannu cynhwysyddion patio ac i gyflyru’r pridd er mwyn gwella eich lawnt.

Meddai Alan Reed: “Dyw llawer o bobl ddim yn sylweddoli pa mor hawdd yw creu compost cartref neu faint o wastraff cartref y mae modd ei gompostio. Yn ogystal â dail yr hydref, toriadau gwair a gwrych, pilion llysiau a phlisgyn wyau, gallwch roi carpion cardbord, bagiau te a hyd yn oed cynnwys eich sugnwr llwch yn eich bin compost.

“Ar ôl i chi brynu bin compost does dim rhagor o gostau a gallwch gael compost cartref, llawn maetholion i’w ddefnyddio yn eich gardd mewn cyn lleied â naw mis. Gall unrhyw un sydd â lle y tu allan i’w cartref gompostio gan ei bod hi’n bosib rhoi’r bin ar bridd noeth, concrid, tarmac neu slabiau patio. Dim ond llenwi’r bin a disgwyl sydd angen ei wneud.

“Mae compostio cartref yn helpu i sicrhau nad yw gwastraff organig y cartref yn cael ei dirlenwi. Mae hyn yn gwastraffu adnoddau naturiol ac yn mynd â lle mewn safleoedd tirlenwi sy’n brin fel y mae hi. Yn fwy na hyn, byddwch yn creu cynnyrch perffaith i sicrhau bod eich planhigion yn ffynnu ac yn aros yn hardd ac iach.

“Os nad oes gennych chi ardd, cofiwch y gallwch ailgylchu unrhyw bilion llysiau, canol ffrwythau, bagiau te a phlisgyn wyau trwy ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff bwyd eich cyngor.”
 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â C2BG 01495 311556 neu ewch i www.blaenau-gwent.org.uk