24 April 2012
Mae menyw fusnes leol o Lynebwy wedi trechu cystadleuaeth frwd i ennill lle ar restr fer Gwobrau Arwain Cymru eleni.
Leslie Barr yw Rheolwr Prosiect/Arweinydd Dros Dro Monwel Signs & Services, ffatri sy'n gwneud arwyddion traffic sy'n darparu swyddi a hyfforddiant ar gyfer pobl gydag anableddau ac anfanteision eraill.
Cafodd ei henwebu yn y categori Arweinydd Tîm, gyda chefnogaeth Chwarae Teg Agile Nation am ei rôl arwain ym Monwel.
Dywedodd Barbara Chidgey, llefarydd ar ran Gwobrau Arwain Cymru;
"Mae llawer o sôn am bwysigrwydd ac effaith arweinyddiaeth yn y gymdeithas heddiw. Ein rôl ni, fodd bynnag, yw datgelu a dathlu enghreifftiau go iawn o arweinyddiaeth sydd wedi cyffwrdd â bywydau pobl.
"Rydym wedi ymestyn allan i hyd yn oed fwy o bobl ledled Cymru eleni a chawsom ymateb gwych o ran nifer ac ansawdd enwebiadau fel y dangosir gan y nifer uchaf erioed yn y rowndiau terfynol. Bu'n fraint lwyr ac yn symbyliad mawr darllen y llu o enwebiadau ysbrydoledig a gyflwynwyd."
Dywedodd Zsanett Lukács, Swyddog Marchnata Monwel a enwebodd Ms Barr am y wobr, "Roeddem yn falch iawn pan gyhoeddwyd yr enwau ar gyfer y rowndiau terfynol eleni.
"Mae'n anrhydedd go iawn y cafodd sgiliau ac ymdrechion Leslie eu cydnabod drwy fod ar y rhestr am wobr mor bwysig ac y bydd yn cystadlu yn erbyn arweinwyr eraill rhagorol. Edrychwn ymlaen at y seremoni wobrwyo a dymuno'n dda i bawb arall sy'n cymryd rhan."
Cyhoeddir enwau'r enillwyr yn y cinio dathlu a seremoni a gynhelir yn yr Hilton, Caerdydd ddydd Iau 31 Mai 2012.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan www.leadingwalesawards.com.




