19 March 2012
Steve Cole, awdur enwog llyfrau plant, yn diddanu ac ysbrydoli disgyblion Blaenau Gwent fel rhan o Ddigwyddiad Llyfr y Byd eleni.
Fel ffocws ar gyfer dathliadau Diwrnod Llyfr y Byd, defnyddiodd Llyfrgelloedd Blaenau Gwent grant gan Gyngor Llyfrau Cymru i wahodd yr awdur llwyddiannus iawn Steve Cole i ymddangos yn theatr Beaufort ddydd Gwener 9 Mawrth 2012.
Diddanodd Steve, awdur ychydig yn orffwyll a ffrantig iawn llyfrau poblogaidd i blant fel Astrosaurs, Cows In Action, Z. Rex a llawer mwy, dros 650 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol o bob rhan o Blaenau Gwent drwy rannu straeon egnïol o sut y dechreuodd ysgrifennu a'r ysbrydoliaeth am rai o'i deitlau mwyaf llwyddiannus.
Ar ôl diddanu'r gynulleidfa gyda darn o'i un o'i lyfrau Astrosaurs llwyddiannus iawn, lansiodd Steve i sesiwn ryngweithiol ddiddorol tu hwnt i ddangos i blant pa mor rhwydd yw hi i wneud eu straeon gwych eu hunain yn defnyddio pethau bob dydd fel anifeiliaid anwes ar gyfer ysbrydoliaeth, cyn dod â'r sesiwn i ben gyda sesiwn cwestiwn ac ateb ddigri.
Rhoddodd y tair sesiwn olwg ddiddorol tu hwnt ar ysgrifennu creadigol a rhoi cyfle gwych i'r plant i gwrdd â'r meddwl tu ôl i rai o'u hoff lyfrau a hyd yn oed i gael llofnodi eu llyfr!
Drwy weithdai ysbrydoledig fel hyn, mae Llyfrgelloedd Blaenau Gwent yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o awduron i gadw'r gair ysgrifenedig yn fyw!




