Newidiadau i lwybrau bws ym Mlaenau Gwent

25 January 2012

O ddydd Llun 30 Ionawr 2012 bydd newidiadau i wasanaethau bws E3/E4 ac E8 ym Mlaenau Gwent. Cyflwynir un llwybr gwasanaeth E3 yn lle llwybrau E3 ac E4.

Mae'r newidiadau'n digwydd fel canlyniad i newidiadau mewn amodau traffig oherwydd gwaith adfywio yn Abertyleri yn ogystal â'r angen i gynnig gwasanaeth drwy Ysbyty Aneurin Bevan.

Dangosodd monitro'r gwasanaeth presennol y bu oedi'n digwydd fel canlyniad a bod angen newidiadau i'r llwybrau presennol.

Bydd llwybr newydd E3 yn gweithredu o Frynmawr i Garnlydan drwy Abertyleri, Blaenau, Aber-big, Cwm, Waunlwyd a Glynebwy a bydd yn parhau i weithredu bob awr. Cafodd gwasanaeth E8 hefyd ei gynnwys yn llwybr newydd yr E3.

Bydd teithwyr o ardaloedd Garnlydan a Rhasa yn manteisio o'r newidiadau hyn fel canlyniad i fws trwodd i Ysbyty Aneurin Bevan, Parc Siopa'r Wyl, Cwm ac Aber-big.

Gall teithwyr sy'n teithio rhwng Brynmawr a Glynebwy barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth X4 sy'n gweithredu bob 30 munud drwy gydol y dydd.

I gael mwy o fanylion am newidiadau llwybrau ac am wybodaeth deithio benodol, cysylltwch â'r Gyd Uned Cludiant Teithwyr ar 01495 355444.