16 September 2011
Ymwelodd Susan Salmon, Dirprwy Gofrestrydd Cyffredinol y Deyrnas Unedig, â Thy Bedwellte yn Nhredegar yr wythnos hon - cartref newydd Gwasanaeth Cofrestru Blaenau Gwent.
Agorwyd Ty a Pharc Bedwellte’n ddiweddar yn dilyn rhaglen adfer £5.9 miliwn ac mae bellach yn swyddfa Sue Mitchell, Cofrestrydd Goruchwyliol Blaenau Gwent, a’i thîm. Mae gan y ty a’r parc hefyd drwydded ar gyfer priodasau a seremonïau eraill.
Aeth Sue a’i chydweithiwr Keith Dykes â Mrs Salmon o amgylch gan esbonio hanes y ty a dangos iddi’r gwahanol ystafelloedd lle medrir cynnal seremonïau.
Dywedodd Mrs Salmon:
“Diolch i bawb yng Ngwasanaeth Cofrestru Blaenau Gwent am roi cymaint o groeso i mi. Fe wnes fwynhau fy ymweliad yn fawr iawn. Roedd yn ddiddorol, o safbwynt cofrestru a hefyd safbwynt hanesyddol.
“Mae’r tîm yn amlwg yn falch iawn o’r safle newydd a’r gwasanaeth newydd a roddwch i bobl Blaenau Gwent. Roedd yn wych clywed am gynlluniau i ehangu’r gwasanaeth a manteisio i’r eithaf o’r cyfleusterau gwych sydd gennych bellach yn Nhy a Pharc Bedwellte.”
Dywedodd Sue Mitchell: “Roedd yn fraint ac yn bleser medru croesawu’r Dirprwy Gofrestrydd Cyffredinol i Dy a Pharc Bedwellte. Mae’r tîm yma wrth eu bodd gyda’r swyddfeydd a’r safle newydd - mae’n lle gwych i weithio ynddo ac yn rhoi cynifer o gyfleoedd newydd i ehangu ein gwasanaeth yn y dyfodol.”
Os oes gennych ddiddordeb yn Nhy a Pharc Bedwellte ar gyfer seremoni, cysylltwch â Sue Mirtchell ar 01495 353374. Gall Sue hefyd drefnu taith o amgylch y lleoliad.
Mae’r Swyddfa Gofrestru hefyd yn delio gyda chofrestru genedigaethau, marwolaeth, mabwysiadau a phartneriaethau sifil.




