07 September 2011
Mae lladron metel diegwyddor wedi targedu prosiect celf gymunedol yng nghanol tref Glynebwy a bydd yn costio miloedd o bunnau i gael metel yn ei le os medrir sicrhau cyllid.
Roedd y grisiau ar ben uchaf Stryd Bethcar (yn ymyl y Siop Wybodaeth ac ymhellach i fyny yn nesaf at siop trin gwallt Brown) yn rhan o brosiect celfwaith cyhoeddus Ginnels ac Alleyways a gynhaliwyd yn 2007/08 ac a ariannwyd gan Croeso Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Amcan Un, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Ond mewn wythnosau diweddar cafodd swm sylweddol o efydd ei ddwyn o godwyr y grisiau – gwerth hyd at tua £30,000.
Mae Cyngor Blaenau Gwent a Heddlu Gwent yn awr yn cydweithio i geisio dal y rhai sy’n gyfrifol a hefyd i atal lladrata pellach drwy farcio gweddill y deunyddiau, ac unrhyw ddeunyddiau newydd, gyda thechnolegau Smartwater.
Caiff cynnyrch datrysiad hylif di-liw o’r enw Smartwater ei roi at y metel sydd ar ôl a’r metel newydd. Nid yw’n rhwydd i lygad noeth weld y ‘cod’ cemegol unigryw ac mae bron yn amhosibl ei symud. Mae’r hylif yn goleuo dan olau uwchfioled gan ei wneud yn rhwydd i’r heddlu ei ddarganfod.
Dywedodd y Cynghorydd John Hopkins, Aelod Gweithredol dros Drefn ac Anrhefn a Chymunedau Diogelach Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae’r lladron hyn wedi dangos diffyg parch llwyr at ysbryd cymunedol a byddaf yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu. Mae grwpiau cymunedol ac unigolion yn rhoi amser a gwaith i helpu cynllunio’r celfwaith yma oedd yn adlewyrchu eu cymuned leol ac yn rhywbeth i fod yn falch ohono - dylai’r unigolion hyn fod â chywilydd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gwent i atal unrhyw droseddau tebyg.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Don Wilcox, Aelod Gweithredol Adfywio y Cyngor: “Rydym yn awr yn gorfod edrych sut y medrwn sicrhau’r cyllid sydd ei angen i gael metel yn ei le ac ni fydd hynny’n dasg rwydd yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Nid dim ond ynglyn â’r gost mae hyn, ond y diffyg parch llwyr at y celfwaith a’r gymuned leol wnaeth ei greu.”
Dywedodd Phillip Morgan, Arolygydd Partneriaeth Uned Plismona Lleol Blaenau Gwent: “Mae dwyn metel yn flaenoriaeth leol ac i’r heddlu ac mae’n effeithio ar nifer fawr o sefydliadau a pherchnogion tai. Mae’r gost i adnewyddu ac atgyweirio eiddo’n achosi caledi ychwanegol i’r gymuned a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ladrad unrhyw fetel i hysbysu’r heddlu.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y lladrad metel gofynnir i chi ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu gysylltu â Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.




