Mae’r ci wedi bwyta’r cyfrifiad… ac ymholiadau eraill

Mae dros 360,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi defnyddio’r help sydd ar gael ar lein ac ar y ffôn i’w helpu i lenwi holiadur Cyfrifiad 2011.


Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae Llinell Gymorth y Cyfrifiad ar 0300 0201 130 wedi derbyn 342,971 o alwadau ers i’r llinell agor ar 4 Mawrth. Mae ychydig yn dros 20,000 o bobl wedi defnyddio’r gwasanaeth cymorth ar-lein yn www.cyfrifiad.gov.uk er mwyn cael cymorth wrth ddechrau arn ac wrth lenwi’r holiadur.

 

Mae’r rhan fwyaf o holiaduron y cyfrifiad wedi’u dosbarthu i 26 miliwn o gartrefi ledled Cymru a Lloegr, felly mae ymholiadau poblogaidd am y cyfrifiad can alwyr y llinell gymorth ac ar lein yn www.cyfrifiad.gov.uk yn cynnwys:

 

 

Dywedodd Gyfarwyddwr Cyfrifiad 2011 Glen Watson: “Rwy’n falch bod pobl wedi cymryd o’u hamser i ofyn cwestiynau am y cyfrifiad pan fo angen help arnyn nhw.

“Rwy’n annog pawb i lenwi eu holiaduron ar gyfer y cyfrifiad er mwyn sicrhau dyfodol gwell i bawb. Mae’r cyfrifiad yn creu darlun manwl iawn o’r gymdeithas sy’n helpu’r broses o wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer y dyfodol am wasanaethau gan gynnwys tai, ysgolion a darpariaeth iechyd.”

O ran y cwestiwn am y ci - yn yr un modd â gyda gwaith cartref, nid yw’r esgus, “mae’r ci wedi’i fwyta fe” yn esgus am beidio â llenwi’r holiadur! Rhaid ei wneud e. Cysylltwch â llinell gymorth Cyfrifiad 2011 a byddant yn rhoi ffurflen arall i chi.

Ewch ati i'w lenwi
http://help.census.gov.uk/index_cymru.html

 
Dyma’r atebion i rai o gwestiynau’r cyhoedd:

Pryd all pobl lenwi’r ffurflen ar lein?

Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich holiadur papur, byddwch yn gallu llenwi a chyflwyno’r holiadur ar-lein. Cofiwch y dylai’ch holiadur

ddisgrifio’n gywir eich cartref ac unrhyw ymwelwyr ar noson y cyfrifiad, sef dydd Sul 27 Mawrth.

Ar eich holiadur papur byddwch yn gweld eich cod mynediad personol i’r rhyngrwyd wedi’i argraffu ar y dudalen flaen. Bydd angen hwn arnoch chi er mwyn agor eich holiadur ar-lein.

Dylai’r atebion fod am y bobl hynny sy’n byw neu’n aros yn eich cartref (gan gynnwys ymwelwyr dros nos) ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef dydd Sul 27 Mawrth.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i ffwrdd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad?

Mae Cyfrifiad 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bawb gael eu cyfrif yn y cyfeiriad lle maen nhw'n byw fel arfer. Mae'n rhaid i bawb sydd oddi cartref ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef dydd Sul 27 Mawrth, gael eu cynnwys ar holiadur y cartref eu cyfeiriad arferol.

Os bydd pawb yn y cartref i ffwrdd ar ddiwrnod y cyfrifiad, dylech lenwi ac anfon eich holiadur yn ôl cyn i chi fynd neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Gwnewch yn siwr bod eich atebion yn berthnasol i’ch cartref chi ar ddiwrnod y cyfrifiad.

Mae angen i'ch holiadur chi gynnwys pawb sy'n byw yn y cyfeiriad hwn fel arfer. Mae hyn yn golygu y dylech chi gynnwys pawb y mae hwn yn gartref parhaol iddyn nhw neu'n gartref y teulu, hyd yn oed os ydyn nhw'n gweithio neu'n astudio oddi cartref.

Os ydych chi'n aros mewn cyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig ar noson y cyfrifiad, dylech chi gael eich cynnwys fel ymwelydd ar holiadur y cyfeiriad hwnnw.

Beth yw’r cyfrifoldebau cyfreithiol?

Mae’r wybodaeth rydych yn ei rhoi yn hanfodol er mwyn cynhyrchu ystadegau cywir o ansawdd uchel.

Mae angen cynnwys pawb yng Nghyfrifiad 2011. Dyna pam y bydd yn rhaid i aelodau pob cartref yng Nghymru a Lloegr, yn ôl y gyfraith, lenwi holiadur y cyfrifiad. Rhaid i ddeiliad y cartref ddarparu gwybodaeth amdano a phob un sy'n byw neu'n aros yno ar 27 Mawrth 2011.

Os byddwch yn gwrthod llenwi a dychwelyd yr holiadur, neu'n rhoi gwybodaeth anwir, gallwch gael dirwy. Nid yw'n orfodol ateb y cwestiynau am grefydd.


Sut mae gofyn am holiadur newydd?

Os ydych chi wedi colli, difrodi, neu heb gael holiadur y cartref, neu os oes mwy nag un cartref yn eich cyfeiriad chi gallwch ofyn am holiadur arall.

Os nad oes digon o le ar gyfer pob un o aelodau ac ymwelwyr eich cartref chi ar eich holiadur, gallwch ei lenwi ar lein (lle mae lle ar gyfer 30 o aelodau a naw ymwelydd), neu gallwch lenwi holiadur papur y cartref ac un neu fwy o holiaduron y cartref (parhad).

Os nad ydych chi am i aelodau eraill o'ch cartref weld eich gwybodaeth, gallwch lenwi holiadur i unigolion. Gallwch lenwi hwn ar lein neu ar bapur.