Datganiad i’r Wasg Swyddfeydd Cyffredinol

19 January 2011

Mae gweledigaeth newydd ar gyfer y Swyddfeydd Cyffredinol, yr adeilad eiconig sydd wrth graidd hen safle’r gwaith dur yng Nglynebwy.

Caiff yr adeilad ei drawsnewid yn atyniad ymwelwyr yn arddangos achyddiaeth a hanes y Cymoedd. Bydd Sinema 4D cyntaf Cymru hefyd ar gael gyda seddi symudol, gogleisiau coes, chwistrell dwr, chwythwr aer ac effeithiau arogl. Bydd y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg ryngweithiol yn helpu i ddod â threftadaeth ddiwydiannol y Cymoedd yn fyw drwy wynebau aml-gyffwrdd a thechnoleg ryngweithiol arall.
Bydd Archifdy Gwent yn symud i’r adeilad a bydd ei gasgliad yn ffurfio conglfaen yr atyniad cyffrous yma.
Bydd y ganolfan yn agor ei drysau i’r cyhoedd yn Haf 2001 ac mae’n lansio apêl gyhoeddus i gael gwybodaeth am wahanol agweddau o’r Gwaith Dur a hanes lleol.
Mae themâu allweddol yr apêl yn ymwneud â:
Bywyd Eugene Cross, Menywod mewn Diwydiant, Atgofion y Ffenestr Cyflog yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Gwrthrychau sy’n ymwneud â’r Gweithiau megis rhoddion ymddeol neu gardiau bwydlen o’r bwyty, straeon, delweddau a gwrthrychau o’r Gwaith Brics a Lido Glynebwy.
Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a deimlant all fod yn ddefnyddiol i’r Ganolfan i gysylltu â Swyddfeydd Prosiect Y Gweithfeydd drwy un o’r dulliau islaw:
E-bost Angharad.collins@blaenau-gwent.gov.uk
 Rhian.bevan@blaenau-gwent.gov.uk
Ffôn:  01495 355724 neu 01495 353300
Post:  Swyddfa Prosiect Y Gweithfeydd, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent NP23 6AA
, Steelworks Road, Ebbw Vale, Blaenau Gwent NP23 6AA