Pobl yn Peacehaven, Tredegar, yn dweud ‘Dim Diolch’ i alwyr oer

21 December 2010

Ni fydd dim croeso i ‘Galwyr Oer’ yn Peacehaven, Tredegar ar ôl i 98% o breswylwyr bleidleisio i ddod y Parth Dim Galw Oer cyntaf ym Mlaenau Gwent.

Mae Safonau Masnach y Cyngor wedi uno gyda Heddlu Gwent i lansio parth newydd lle nad oes croeso i werthwyr carreg drws. Gosodwyd arwyddion stryd a chaiff sticeri ffenestr yn cael eu dangos yn gofyn i bobl sy’n gwerthu i beidio galw.

Ymgynghorodd Safonau Masnach gyda phreswylwyr yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau diweddar yn ymwneud â masnachwyr twyllodrus. Buont yn gweithio gyda thîm o heddlu lleol i weithredu ar hyn a diogelu pobl bregus yn y gymuned.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cnocio drysau ar gyfer busnesau yn debygol o fod yn ddiffuant. Fodd bynnag, caiff y dechneg o gnocio drysau heb drefniant ymlaen llaw hefyd ei ddefnyddio gan ladron i fynd i fewn i gartrefi.

Dywedodd y Cynghorydd John Hopkins, Aelod Gweithredol Troseddu, Anrhefn a Chymunedau Diogelach Cyngor Blaenau Gwent: “Mae unrhyw gynllun sy’n anelu i ddiogelu’r gymuned drwy gadw galwyr heb wahoddiad draw yn beth cadarnhaol a byddwn yn cefnogi unrhyw gynllun fydd yn gwella ansawdd bywyd i bobl leol.”