Ailwampio Llyfrgell Blaenau ar gost o £62,000

24 November 2009

Mae Llyfrgell Blaenau yn dangos gwedd newydd i gwsmeriaid ar ôl ei ailwampio ar gost o £62,000.

Diolch i gyllid o raglen CyMAL Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi trawsnewid y llyfrgell gyda chelfi a silffoedd newydd, cownter staff newydd, cynllun lliw newydd egniol a mynediad llawn i’r anabl. Mae llyfrau newydd, gemau cyfrifiadur a llyfrau sain digidol ar gael i’w benthyg.

Dywedodd y Cyng Jason Owen, Aelod Gweithredol dros Hamdden a Diwylliant:

“Rydym eisiau i bawb ailddarganfod eu llyfrgell leol, ac rydym yn adfer ein llyfrgelloedd i ddarparu’r cyfleusterau gorau a mwyaf modern.”

Mae gwybodaeth ar oriau agor  llyfrgelloedd ar gael ar wefan y Cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk neu gysylltu â 01495 355950.