23 November 2009
Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi ennill dyfarniad arian am ei gwaith yn hyrwyddo byw’n iach a lles ymysg staff.
Dyfarnodd aseswyr annibynnol rhaglen Safon iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru Ddyfarniad Safon Aur “cryf” a “haeddiannol iawn” i’r awdurdod.
Dywedodd y Cyng Jason Owen, Aelod Gweithredol Hamdden a Diwylliant y Cyngor:
“Mae hyn yn gamp wych – bu’n ymdrech tîm fawr yn cynnwys ein holl staff.”
Mae 30 ‘Hyrwyddwr Iechyd’ gwirfoddol Cyngor Blaenau Gwent - a ganmolwyd gan yr Aseswyr - yn rhannu gwybodaeth ar gynlluniau iechyd, lles a ffitrwydd gyda chydweithwyr.




