Comisiynydd Pobl Hyn Cymru yn cwrdd pobl dros 50 ym Mlaenau Gwent

30 October 2009

Canmolodd Comisiynydd Pobl Hyn Cymru Rwydwaith Pobl Hyn 50+ Blaenau Gwent ar ei hymweliad i ddigwyddiad arbennig yn Abertyleri.

Cyfarfu Ruth Marks, sy'n gweithio i wneud yn sicr y caiff llais pobl hyn ar draws Cymru ei glywed, â chynrychiolwyr o’r Rhwydwaith Pobl Hyn 50+ a grwpiau cymunedol yng Nghanolfan Gweithredu Dysgu Abertyleri.

Dywedodd y Comisiynydd:

“Mae gan Blaenau Gwent enw rhagorol am ei hymrwymiad i ddysgu gydol oes – ac mae pawb ohonoch rwyf wedi’u cyfarfod yma heddiw yn dyst i hynny,” meddai’r Comisiynydd.