Cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol Cyngor Blaenau Gwent

10 February 2012

Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cyhoeddi ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer Blaenau Gwent.

Bob blwyddyn, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn adrodd pa mor dda y mae cyrff sector cyhoeddus Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella a chyflenwi eu gwasanaethau. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar Gyngor Blaenau Gwent heddiw ac mae'n cyflwyno darlun o wella yn y fwrdeisdref sirol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ei gasgliad yw bod y Cyngor yn adrodd ei gynnydd ond nad yw'n glir bob amser sut mae hyn yn arwain at welliannau i ddinasyddion. Dywed Swyddfa Archwilio Cymru, er bod y Cyngor yn gwneud cynnydd ar ddatblygu'r mesurau y mae'n eu defnyddio i asesu effaith ers gosod ei amcanion gwella cyntaf yn 2010, fod angen mwy o waith i'w datblygu ymhellach.

Yn ei adroddiad, dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod perfformiad y Cyngor wedi gwella mewn rhai meysydd blaenoriaeth ond atgoffodd y Cyngor y bydd ei ragolygon ar gyfer gwelliannau sylweddol yn dibynnu ar sut yr aiff i'r afael â'i broblemau presennol.

Er i'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol nodi perfformiad cyson da mewn llawer o agweddau o waith gyda phlant a theuluoedd, tanlinellwyd canfyddiadau arolwg Estyn 2011. Ailddywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod gwasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc yn anfoddhaol. Mae'r Cyngor wrthi'n cyflenwi ar gynllun gewithredu a ddatblygwyd gyda Thasglu o Gastell-nedd Port Talbot a gyda chefnogaeth Comisiynwyr, i wella canlyniadau addysgol ar gyfer pob dysgwr ym Mlaenau Gwent.

Soniodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol hefyd am y materion a gododd yn niwedd 2011 yn asesiad corfforaethol y Cyngor, pan ddyfarnodd nad oedd angen ymyriad allanol i redeg y Cyngor ar y pryd. Ym mis Rhagfyr, gwnaeth y Cyngor ei ymateb dechreuol i'r argymhelliad statudol - mewn da bryd o fewn y 30 diwrnod gofynnol - a bydd yn cyflwyno cynllun gweithredu llawn yn y dyfodol agos yn gosod y camau gweithredu tymor byr a hwy y bydd yn eu cymryd i hybu graddfa a chyflymder gwelliannau.

Nododd yr Adroddiad Gwella Blynyddol fod y Cyngor, ers gosod ei amcanion gwella cyntaf yn 2010 wrth ochr pob awdurdod lleol yng Nghymru - wedi mireinio hyn ac yn cryfhau trefniadau i gefnogi eu cyflenwi.

Dywedodd y Cyng John Mason, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol yn cynnwys asesiad clir o ble mae'r Cyngor yn gwella, a lle mae angen i ni wneud mwy i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer cymunedau Blaenau Gwent. Mae'n cadarnhau ymhellach ymrwymiad y Cyngor i gydweithio i hybu gwelliannau, yn ein hymateb i adroddiad Estyn a hefyd yr asesiad corfforaethol.

"Rydym hefyd yn gweithio'n galed i gryfhau'r trefniadau sydd gennym ar waith i fesur yn gyson yr effaith yr ydym yn ei chreu i ddinasyddion, ac rwyf wedi fy nghalonogi fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi sylweddoli'r cynnydd a wnaethom wrth ddatblygu mesurau newydd ers 2010.

"Mae llawer o'r sylfeini y byddwn yn sicrhau gwelliannau parhaus arnynt eisoes ar waith, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio'n adeiladol gyda Swyddfa Archwilio Cymru."

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol llawn ar gael o wefan Swyddfa Archwilio Cymru yn www.wao.gov.uk