Cyngor Blaenau Gwent yn lansio llinell triwantiaeth

16 January 2012

Bydd llinell ffôn arbennig newydd, a lansir heddiw gan Gyngor Blaenau Gwent, yn ei gwneud yn haws i bobl leol gyfrannu at ymdrechion i hybu mynychiad ysgol yn yr ardal.

Gall preswylwyr sy'n pryderu am blant a phobl ifanc a ddylai fod yn yr ysgol yn awr ffonio'r Llinell Ffôn Triwantiaeth ar 01495 311556. Bydd y rhif cyfrinacho yn galluogi pobl leol i hysbysu'r Cyngor a'i bartneriaid, ac i gymryd camau gweithredu priodol.

Dywedodd Sylvia Lindoe, Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden Cyngor Blaenau Gwent:

"Gall mynychiad gwael yn yr ysgol gael effaith negyddol iawn ar fywyd a dyfodol plant a phobl ifanc. Mae hyn yn achosi pryder arbennig oherwydd bod lefelau mynychiad ym Mlaenau Gwent yn is na chyfartaledd Cymru.

"Gall pawb yn y gymuned gefnogi ymdrechion i helpu sicrhau fod mwy o blant yn manteisio o fynychu'r ysgol yn rheolaidd. Rydym yn annog preswylwyr sy'n gwybod am blant neu bobl ifanc sy'n chwarae triwant o'r ysgol i ffonio ein llinell ffôn arbennig fel y gallwn helpu."

Mae'r rhif ffôn newydd yn rhan o amrywiaeth o fesurau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i helpu plant a phobl ifanc osgoi canlyniadau mynychiad gwael yn yr ysgol, sy'n cynnwys lefelau cyrhaeddiad isel, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau a chyfle uwch y byddant yn dod yn rhai heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig cymorth i deuluoedd sy'n cael problemau gyda'u plant yn mynychu'r ysgol a gyda’r heddlu i gynnal patrolau triwantiaeth. Mae'n parhau i annog pobl leol i gyfrannu at gynyddu cyfraddau mynychiad i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Mae mwy o wybodaeth am pam fod mynychu'r ysgol yn bwysig ar gael yn http://www.blaenau-gwent.gov.uk/education/16639.asp.

Gall pobl hefyd anfon neges e-bost at  info@blaenau-gwent.gov.uk i hysbysu'r Cyngor ar blant sy'n colli addysg.