10 January 2012
Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cyflwyno ei ymateb ffurfiol i argymhelliad statudol gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Dywedwyd wrth y Cyngor yn ei asesiad corfforaethol - a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Tachwedd - fod ganddo nodweddion o lywodraethu effeithiol, ond bod yn rhaid iddo sicrhau y cânt eu gweithredu’n fwy cyson i herio perfformiad gwael a sicrhau atebolrwydd.
Barnodd Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd angen unrhyw ymyriad allanol i'r ffordd y caiff y Cyngor ei redeg ar hyn o bryd, a gwnaeth argymhelliad statudol. Gwnaed ymateb ffurfiol y Cyngor i'r argymhelliad o fewn 30 diwrnod gwaith yn ôl y gofyn.
Yn ei lythyr i Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Rhagfyr, cadarnhaodd y Cyngor ei fod yn derbyn yn llawn ganfyddiadau'r asesiad corfforaethol a'i fod yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau o'r maint ac ar y cyflymder angenrheidiol. Mae'n amlinellu sut mae'r Cyngor yn cynnig ymateb ar unwaith i'r materion a godwyd yn yr adroddiad, cyn cyflwyno cynllun gweithredu llawn a manwl ar gyfer rhaglen o newid cynaliadwy.
Mae'r ymateb ffurfiol yn cynnwys nifer o gamau gweithredu allweddol y bydd y Cyngor yn eu cymryd i gynyddu ei ddealltwriaeth o'r materion a nodwyd yn yr asesiad corfforaethol ac i ymwreiddio cyfrifoldebau torfol ac unigol ymhellach. Mae hefyd yn nodi camau gweithredu i hybu newidiadau mewn diwylliant a sicrhau mwy o gysondeb mewn trefniadau llywodraethu.
Mae'r camau arfaethedig yn cynnwys gweithredu set a gytunwyd o bolisïau a gweithdrefnau llywodraethu a monitro trwyadl ar gynlluniau gweithredu gwella sy'n mynd i'r afael â thanberfformiad mewn meysydd blaenoriaeth. Caiff y blaenoriaethau yr ymrwymodd y Cyngor iddynt yn ei gynllun busnes - y Cynllun Gwella Corfforaethol - ei adolygu hefyd, yn ogystal â Strategaeth Ariannol Tymor Canol yr awdurdod. Cynigir hefyd gynnal gweithdai gydag aelodau etholedig ac uwch swyddogion.
Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent: "Gwnaethom ein hymateb ffurfiol yn dilyn cyfarfodydd cadarnhaol a chynhyrchiol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rydym hefyd yn parhau i gadw dialog gyda Swyddfa Archwilio Cymru.
"Mae'r Cyngor yn derbyn canfyddiadau'r asesiad corfforaethol yn llawn ac mae consensws clir fod yn rhaid i'n ffocws fod ar sicrhau gwelliannau mwy a chyflymach. Gall pobl Blaenau Gwent fod yn hyderus y bydd eu Cyngor yn adeiladu ei raglen gwelliannau ar sylfaen gadarn o gyfrifoldeb unigol a thorfol, ac nad ydym yn ofni gwneud penderfyniadau anodd er budd cymunedau lleol."
Ymrwymodd y Cyngor y bydd ei gynllun gweithredu llawn yn barod erbyn Chwefror 2012.




