Man dechrau a gorffen
Maes Parcio Cyhoeddus Ty Crwn Nantyglo
Adeiladwyd y tai crynion (1) fel mesur amddiffynnol rhag ofn terfysg ymysg y gweithwyr. Arweiniodd y dirwasgiad yn y diwydiant haearn ar ôl rhyfeloedd Napoleon ynghyd ag amodau gweithio echrydus at gysylltiadau cynyddol anodd rhwng perchnogion a gweithwyr. Bu terfysgoedd yn 1816 a 1822 pan drechwyd milwyr lleol gan “gyfuniad” gweithwyr Nantyglo (ffurf cynnar o Undeb Llafur) dan arweiniad Josiah Evans a Harry Lewis.
Bu’n rhaid galw am fwy o filwyr i dawelu’r anghydfod, ac am bron bythefnos cafodd y Scots Grays (yn enwog am gymryd rhan yn Waterloo) eu dodi yn stablau y Tai Crynion. Ymddengys i’r tyrrau gyflawni eu diben fel ataliwyr, a phrin y cawsant eu defnyddio fel caer. Yn 1841 cofnodwyd y twr deheuol (bellach yn furddun) yn y cyfrifiad fel cartref John Wells, ysgrifennydd preifat Joseph a Crawshay Bailey. Cafodd y twr gogleddol ei adfer yn ddiweddar.
Mae Fferm Ty Crwn mewn dwylo preifat a dim ond o’r maes parcio o’r llwybr marchogaeth cyhoeddus i ddwyrain y safle y medrir ei weld – gwaherddir mynediad. Mae gan y twr ddrws haearn cadarn mewn cyntedd carreg a oedd yn wreiddiol wedi’i orchuddio gan do llechog gyda phigau crwn yn ymwthio allan i rwystro mynediad i’r lloriau uchaf. Yn y drws ei hunan mae dau dwll mwsged y medrir eu selio o’r tu mewn gan fflapiau symudol. Mae waliau’r twr yn bedair troedfedd o drwch gyda’r ffenestri’n culhau yn sylweddol tuag y tu mewn, gan roi’r diogeliad mwyaf i’r rhai oedd ynddo. Mae casmentau’r ffenestr o haearn bwrw, yn yr un modd agoriad a orchuddir gan grid i dde y fynedfa yn siafft awyriant a fwriadwyd i gadw nwyddau yn y seleri yn ffres pe bai gwarchae. Mae’r to yn unigryw gan ei fod wedi ei gynllunio yn y gweithiau mewn adrannau “petal” yn ymestyn o blât canolog crwn. Cafodd y bedw ffwrnais a chalch a ddodwyd yn wreiddiol i atal y tywydd ei amnewid maes o law gan byg.
Mae gweddill yr ysguboriau ac adeiladau storio yn dyddio’n ôl i weithiau gwreiddiol Nantyglo o 1795. Roeddent yn storfa i’r offer ar gyfer y gweithiau ac yma y trigai ceffylau’r tramiau. Adeiladwyd y tyrrau yn gymaint i ddiogelu’r offer â theulu’r Bailey eu hunain.
Tua 1820 adeiladodd y teulu Bailey blasty ysblennydd, Ty Mawr (2), yn agos iawn at Dy Trosnant. Roedd gerddi mawr o amgylch gyda lonydd coed a nant fynyddig. Roedd colonâd o chwe philer haearn (wedi eu bwrw yn y gwaith) yn cefnogi canopi feranda, roedd y fynedfa i’r ty drwy borth gyda bwa canolog. Roedd grisiau marmor addurnedig y tu mewn. Roedd gweision yn byw yn hen Dy Trosnant a roedd cyfres o adeiladau annecs yn y cefn o amgylch cwrt bychan. Heddiw, ar ôl gwaith tyllu helaeth, dengys y sylfeini sydd ar ôl i ni rywfaint o gynllun gwreiddiol yr ystafell. I’r cefn mae tair seler fawr gyda grisiau i’r cwrt a’r ceginau, tu cefn medrir gweld olion yr annecs a Thy Trosnant. Mae’r feranda yn dal yno o flaen y tu blaen, gyda gwaelod un o’r colofnau haearn a sawl carreg gwrb i lywio’r cerbydau ar hyd y blaen. Defnyddiwyd y ty hyd 1885 a chafodd ei ddymchwel yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl mynd yn furddun.
Gan adael safle Ty Mawr, byddwch yn cerdded ar hyd llwybr tramffordd 1828 oedd yn rhedeg o Beaufort i Byllau Dwfn Nantyglo. Ar y dde medrir gweld y fynedfa i Lefel Califfornia (3), a enwyd oherwydd i Silvanus Jones, y perchennog, gael cytundeb i gyflenwi glo i Gwmni Califfornia.
Bu’r adeilad bach a adferwyd yn ddiweddar ar y dde unwaith yn fwthyn garddwr Crawshay Bailey (4). Ar ochr y mynydd uwchlaw medrir gweld ysgubor gydag olion Fferm Penllwyn Uchaf (5), man geni (1702) Edmund Jones, awdur, hanesydd a Gweinidog Annibynwyr a adnabyddid fel “y Proffwyd”.
Wrth gerdded tua’r de medrir gweld pinwydd a choed ywen Ty’r Ywen (6), a adnabyddir yn lleol fel Ysbyty’r Dwymyn. Bu’n gartref preifat yn y ganrif ddiwethaf ac wedyn ei droi yn ysbyty ynysu, ac mae bellach yn gartref preifat unwaith eto.
Wrth edrych ymhellach i’r de ac yn uwch ar y bryn medrwch weld bwthyn llwyd bychan, Fferm Capel (7). Fe’i gelwid unwaith yn Ty Gronwy, mae’r fferm ddefaid hon yn enghraifft dda o adeilad ty nenfforch o’r 15eg ganrif. Fe’i codwyd yn 1474.
O Ty’r Ywen trowch i’r dde a mynd i lawr i bryn i Dy Coalbrookvale (8), cyn gartref George Brewer, Meistr Haearn gwaith Coalbrookvale. Roedd yn un o’r ychydig o Feistri Haearn na fyddai’n cyflogi plant dan 10 oed. Defnyddid y ty fel man cyfarfod Cymdeithas y Meistri Haearn a Pherchnogion Pyllau ac yma y meddyliwyd am y syniad o’r raddfa lithro o gyflogau. Mae wyneb y ty a welwn heddiw yn debyg iawn i fel yr oedd 150 mlynedd yn ôl. Cafodd yr ystafelloedd cefn eu dymchwel er mwyn darbodusrwydd.
Wrth groesi ffordd osgoi newydd Nantyglo yn ofalus, dringwch y bryn i’r dwyrain nes dod at y Porthdy (9), ger y gyffordd gyda ffordd Blaenau-Nantyglo. Adeiladwyd y ty yng nghornel de ddwyreiniol stad Bailey, roedd hwn yn wreiddiol yn dollty. Roedd yn rhaid i unrhyw un a ddymunai fynd drwy’r stad dalu am y fraint! Er y defnyddiwyd deunyddiau modern fel wyneb ar yr adeilad, ychydig o newid fu yn y strwythur a’r maint.
Wrth droi i’r chwith wrth y Porthdy, cerddwch ar hyd Heol Fferm heibio Clôs Beaumont a throi i’r dde i fyny’r bryn (10), i ymuno â Stryd y Frenhines, y briffordd drwy Garn Fach ger cysgodfan bws. Tua 30 llathen i dde’r gysgodfan dewch at Dafarn y Royal Oak (11), bellach yn gartref preifat. Daeth Zephaniah Williams, un o arweinwyr y Siartwyr , yn landlord y Royal Oak yn 1839. Yma yr ymgasglodd colofn Blaenau’r Cymoedd ar gyfer yr orymdaith i Gasnewydd a arweiniodd at derfysg 4 Tachwedd 1839. Yn dilyn methiant yr ymosodiad ar Gasnewydd, cafwyd Williams yn euog o frad a’i ddedfrydu i farwolaeth. Newidiwyd ei ddedfryd i allfudiad am oes a bu farw yn Tasmania yn 1874. Yng nghefn y Royal Oak mae adeilad bach lle arferai ysgol y gwaith fod.
Wrth gerdded ar hyd Heol y Frenhines byddwch yn pasio safle Eglwys Bedyddwyr Hermon (12) – un o’r capeli a phrysuraf (yn ei anterth) yn yr ardal. Ymddiriedolwyr Capel Hermon yw perchnogion a rheolwyr y fynwent ac mae’n drysordy o wybodaeth hanesyddol a chymdeithasol ddiddorol. Parhewch i’r gogledd drwy’r pentref – gyferbyn â siop sglodion, ar y dde mae agoriad llwybr troed (13) yn agor ar Heol Fferm. Dilynwch y llwybr hwn.
Yn Heol Fferm trowch i’r dde a mynd i’r gogledd cyn belled â Medhurst, ty mawr gyda gerddi o’i amgylch (14). Enw gwreiddiol y ty oedd Ty’r Meddyg, ac fe’i adeiladwyd gan Crawshay Bailey ar gyfer Abraham Rowlands, meddyg y Gwaith. Er wedi ei drosi yn fflatiau ni fu fawr ddim newid yn nhu allan y ty. Ar y lawnt yn y blaen mae deial haul a gafodd ei fwrw yng ngwaith Nantyglo.
Yn wynebu â chi ar Heol y Farchnad mae Capel Rehoboth (15). Ni chaiff ei ddefnyddio mwyach. Cafodd ei adeiladu fel chwaer gapel i Rehoboth, Brynmawr.
Tua 50 llath mae adeilad mawr hyn yn ymyl rhes o fyngalos. Yma bu Siop y Cwnni (Tryc). Talwyd i weithwyr Nantyglo mewn tocynnau (yn hytrach nag arian y wlad) a dim ond am nwyddau yn Siop y Cwmni y medrid eu cyfnewid. Gan fod prisiau’r siop yn uwch, roedd cynnydd yn elw y Meistri Haearn. Roedd y gweithwyr a’u teuluoedd yn hollol ddibynnol ar deulu’r Bailey. Gwrthwynebwyd y system yn chwyrn. Rheolwr y siop oedd John Jayne o Gilwern, a ddaeth yn ddigon cyfoethog o’r elw fel iddo fedru prynu Gwaith Haearn Clydach yn 1862.
Mae’r rhes o fyngalos yn nodi safle Rhes Hir (adnabyddir hefyd fel Rhes Swyddfa), y tai cyntaf i weithwyr a adeiladwyd yn Nantyglo yn 1793. Yn ôl yr Archddiacon Coxe in 1800, roedd y tai “built against a rock ledge, forming two tenements without communication”. Dymchwelwyd y rhes yn 1962, er fod tri yn parhau yn gysylltiedig â Siop y Cwmni. Medrir gweld bwau a wal gefn y rhesi isaf rhwng y byngalos.
Croeswch y bont droed dros y briffordd ac ewch drwy Glos Ty Crwn nes y byddwch yn ailymuno â Heol Waun Ebwy (17). Dilynwch y ffordd i’r gogledd orllewin nes cyrhaeddwch safle Capel Methodistaidd Winchestown (ar gornel Heol Pond (18). Yn yr adeilad hwn yn 1834 y cyhoeddodd corff llywodraethu Methodistiaid De Cymru na fedrai undebwr llafar masnach gyflawni ei oblygiadau fel Methodist. Roedd gan hyn oblygiadau pwysig nid yn unig ar gyfer dyfodol Anghydffurfiaeth ond hefyd ar gyfer yr iaith Gymraeg a oedd wedi ei gysylltu mor agos ag ef.
Wrth edrych ar Ysgol Nantyglo i’r dwyrain (19), medrid maddau i’r ymwelydd am beidio sylweddoli y bu hyn unwaith yn safle melinau a ffwrneisi yn gysylltiedig gyda Gwaith Haearn Nantyglo. Agorwyd y gweithiau yn gyntaf yn 1795, a bu ei hanes cynnar braidd yn amrywiol nes i Joseph Bailey yn 1999 fynd i bartneriaeth gyda Matthew Wayne a phrynu’r cyfan am £8,000. Ar ôl 1813 gadawodd Wayne ac ymunwyd â Joseph gan ei frawd Crawshay. Cafwyd cyfnod o fuddsoddiad cyflym yn gweithiau wedyn ac erbyn 1825 roedd Melin Llew enwog, Nantyglo wedi dod yn un o ganolfannau haearn pwysicaf y byd, yn cyflogi mwy na 3,000 o ddynion a 500 o fenywod a phlant. Wrth edrych i’r de orllewin medrir gweld Pwll Waun, a adeiladwyd tua 1820 i gyflenwi’r gwaith (20).
Wrth gerdded i’r gorllewin ar hyd ffordd goncrit, gyferbyn â’r capel yr ydych ymysg olion peth o’r gweithiau cyntaf yn yr ardal. Gweithiwyd 11 sêm yma – rhai ohonynt drwy ddull a elwir yn “ffosi”. Crëwyd argae mewn ffynhonnau a nentydd a phan oedd digon o ddwr wedi ei gasglu, fe’i rhyddhawyd i olchi ymaith y pridd uchaf gan ddangos y semau glo bâs oddi tanodd.
Wrth edrych i’r gogledd orllewin medrir gweld Fferm Ty Pwca (21), adlais o’r ellyllon y credai pobl leol eu bod yn byw yn yr ardal. Wrth ysgrifennu yn 1779, dywedodd y Parch Edmund Jones: “Abundance of people saw them, and heard their Musick, which everyone said was low and pleasant, but none could ever learn the Tune…..They appeared in diverse ways but their most frequent way of appearing was like dancing Companies with musick, and in the form of Funerals”.
Tua 150 llathen o’r grid gwartheg, mae fforch i’r chwith yn y ffordd (22). Gan gymryd y fforch chwith hon a mynd drwy’r tyddynod byddwch yn mynd heibio Clwb Golff Gorllewin Sir Fynwy (23). Adeiladwyd y cwrs yn 1909, a hawlir mai ef yw’r cwrs uchaf yn Lloegr a Cymru gyda’r 14eg twll tua 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr!
Gan barhau am 150 llathen arall mae’r llwybr yn troi i’r chwith i fyngalo a thyddyn arall, Caban Gwyn (24), safle Capel Horeb a adeiladwyd yn 1819 am gost o £111.00. Erbyn 1825 roedd y capel yn rhy fach i’r gynulleidfa ac yn hytrach nag ymestyn y capel, symudodd yr aelodau i Frynmawr ac adeiladu capel newydd, Rehoboth.
Parhewch yn syth ymlaen am tua 300 llath nes y bydd y llwybr yn ymuno â Heol Waun Ebwy, troi i’r dde a cherdded y 200 llathen olaf yn ôl i Dyrrau’r Ty Crwn.




