Man Cychwyn
Maes Parcio The Walk
Cymerwch ofal ar y ffyrdd. Mae rhannau o’r ffyrdd yn golygu rhiwiau serth, gan olygu y medrant fod yn anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio.
Cerddwch i Neuadd Ambiwlans Sant Ioan. Yn yr ardal i’r chwith (bellach y maes parcio) oedd yr hen orsaf dân (1921), oddi yma, edrychwch i’r chwith tuag at yr A406. Yr ardal gyferbyn â’r gyffordd (1) oedd safle seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 1958. Croeswch y ffordd a throi i’r dde heibio ardal chwarae’r plant hyd at set o glwydi (2). Dyma safle Pyllau Tir Dril – mae olion y trac rheilffyrdd i’r pyllau yn dal i’w gweld ar y ddaear.
Cymerwch y troad nesaf i’ch chwith i Stryd Holland a adeiladwyd ar droad y ganrif i gymryd lle Rhesi Einion/Forge Rows (tai gweithiau haearn o ddechrau/canol y 19fed ganrif). Medrir gweld olion siafft glofa (3) yng ngardd gefn 4, Teras Armoury (ar y dde i chi). Cerddwch ymlaen, ac edrych i lawr y troad cyntaf i’r chwith ohonoch. Yr adeilad mawr (bellach yn swyddfa ddidoli post) oedd y Gyfnewidfa Lafur (4) yn ystod y Dirwasgiad yn y 1930au. Yn y safle ar waelod y bryn roedd Ysgol yr Efail (1838). Parhewch ar hyd Stryd Holland, gan sylwi ar y teils addurnol yn nrysau rhai o’r tai.
Ar ben y ffordd trowch i’r chwith i lawr y llethr ac ar y chwith i chi mae un o’r tai hynaf yng Nglyn Ebwy (5). Roedd hyn yn rhan o Sgwâr Peniel oedd yn cynnwys y Capel Peniel cyntaf (1825), lle sefydlwyd y Sefydliad Llenyddol a Gwyddonol yn 1848. Cerddwch i fyny at gwt y Cadetiaid Hyfforddiant Awyr a chymryd y llwybr ar ei ochr, gan ddilyn yr hawl tramwy drwodd i’r stad dai newydd. Ar y lan islaw, medrwch weld rhai o’r rheiliau oedd yn nodi ffin mynwent Peniel. Dilynwch y llwybr wrth iddo fynd ar i fyny nes dewch at sedd. O’r pwynt hwn, edrychwch islaw ar Waith Galfaneiddio a Thunplat Glyn Ebwy (atgof o ddiwydiant gwneud dur ffyniannus y Dref). I’r de mae parc yr Wyl, safle Gwyl Erddi Cymru (1992).
Cerddwch i fyny’r llwybr tu cefn i chi i Stryd yr Eglwys. Sylwch ar y wal fawr ar ochr arall y ffordd, cwblhawyd hon ar 6 Tachwedd 1931. Ceisiwch ganfod y garreg ddyddiad. Edrychwch i’r awyr wrth i chi gerdded, ac ni fedrwch fethu sylwi ar dwr Eglwys Crist (6). Agorwyd yr adeilad carreg goch gwych hwn yn Rhagfyr 1861, ar gost o £60,000, ac mae’n haeddu ei enw fel “Eglwys Gadeiriol y Bryniau”. Rhoddwyd llawer o’r arian ar gyfer ei hadeiladu gan Abraham Darby y 4ydd o Gwmni Glyn Ebwy, oedd yn or-wyr i Ab. Darby 1af (y Meistr Haearn blaengar o Coalbrookdale, Swydd Amwythig). Dywedir fod y pennau a gerfiwyd ar ochrau drysau’r eglwys yn debyg i Derby.
Yn yr ardal gyferbyn â’r Eglwys oedd y Neuadd Ganolog (a alwyd wedyn y Palas), un o’r llu o theatrau/sinemâu a wasanaethodd pobl Glyn Ebwy. Ymddangosodd llawer o enwau enwog yn y dref, yn cynnwys Charlie Chaplin, a ysgrifennodd am Lyn Ebwy yn ei hunangofiant.
Croeswch y ffordd a pharhau ar hyd Stryd yr Eglwys i’r Sefydliad Llenyddol a Gwyddonol (7), a symudodd o Sgwâr Peniel i’r safle hwn yn 1853. I dde’r fynedfa mae pistyll gyda dyddiad o 1886. Arferai hyn fod yn Nheras Armoury a hon oedd pistyll cyhoeddus olaf y Dref. Bryd hynny, pistyllau oedd yr unig ffynhonnell o ddwr glân a roeddent felly yn fannau lle deuai grwpiau ynghyd i gael sgwrs. Roeddent hefyd yn fan bridio llawer o afiechydon. Adeiladwyd Peniel (8) gyferbyn yn 1865 i gymryd lle capel cynharach yn Sgwâr Peniel. Yn ei ymyl mae adeilad (9) gyda marc dyddiad “1900”, arferai swyddfa bost y dref fod yma.
Cymerwch y troad cyntaf i’ch chwith, i fyny allt serth i Ysbyty Glyn Ebwy (10). Yn wreiddiol yn safle dau dy, un yn eiddo i William Adams (rheolwr gwaith, a ffigur allweddol yn sefydliad yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd) a’r llall i Mr Laxton (meddyg y gwaith). Cawsant eu troi’n Ysbyty Bwthyn gyda chymorth cronfeydd y gweithwyr. Oddi yma mae gennych olygfa dda o Fynydd Carn y Cefn – gall y rhai gyda golwg da sylwi ar frig bychan ger ei bwynt uchaf, carn o’r oes efydd. Cerddwch i lawr yr allt ar ben pellaf yr Ysbyty, a throi i’r dde yn sydyn i lawr lôn a aiff a chi i Eureka Place. Wrth i chi fynd, efallai sylwch ar dyllau sgwâr bychan ynn waliau’r cerddi y dosbrrthid glo drwyddynt yn y dyddiau cyn gwres canolog. Cymerwch y ffordd i dde y garej. Cerddwch i Neuadd y Gweithwyr (11) (adeiladwyd yn 1970, bellach yn neuadd bingo). Arferai hyn fod yn glwb a theatr ac yn ddiweddarach yn sinema.
Parhewch heibio’r maes parcio i’r chwith ohonoch, ac edrych i lawr i ganol y dref. Medrech fynd i mewn i’r dref, ond i barhau gyda’r dro, ewch at y brif gyffordd. Yr eglwys fawr ar y dde i chi yw Eglwys Babyddol yr Holl Seintiau (12), (1925). Dilynwch y palmant wrth iddo droelli i’r chwith o amgylch Cwrt George Parry (enwyd ar ôl fferyllydd yng Ngwaith Glyn Ebwy) ac edrych tuag at Gapel y West End (13) (1908). Yn awr croeswch y briffordd, a cherdded i’r stryd yn uniongyrchol gyferbyn i chi (Ffordd Mount Pleasant), ewch ymlaen nes cyrhaeddwch Gapel Mount Pleasant (14) (1885) ac yna droi i’r dde i lawr Stryd y Bont, a elwir yn lleol fel Bryn Norton er cof am y siop a fu ar ben y bryn am flynyddoedd lawer. Parhewch drwy’r isffordd a heibio’r Clinig Iechyd i Heol Libanus. Edrychwch i’r dde i’r Ardd Goffa (15). Cafodd cofeb y Milwr Dienw a ddadorchuddiwyd yn 1924 ac a symudwyd yma o Stryd y Farchnad yn 1950.
Mae gennych yn awr ddewis llwybrau.
LLWYBR A – TRO HIRACH
Ar gyfer tro galetach, trowch i’r chwith, heibio’r ramp i’r Clinig, yna i’r chwith eto o amgylch maes parcio y Ganolfan Iechyd. Dilynwch y palmant wrth iddo fynd heibio’r Ganolfan Ddinesig. Byddwch yn sylwi ar ddau fosaig bric a phaneli gwybodaeth ar y chwith i chi. Mae’r rhain yn coffau Pyllau Gantre (16) a arferai fod ar y safle.
O Swyddfeydd y Cyngor, croeswch y ffordd i adeilad y DSS, gan ddilyn y llwybr wrth iddo droi i’r dde, o amgylch yr adeilad nes dewch at briffordd. Croeswch yma a cherdded tuag at ardd isel yn cynnwys Meini’r Orsedd (17) a godwyd i gofio am Eisteddfod Genedlaethol 1958, fe’i symudwyd yma yn 1996). Cymerwch y llwybr i’r dde ac yna i lawr y bryn. Yn y gwaelod, ewch ymlaen i’r gyffordd gyda Heol Beaufort. Mae’r man gwyrdd i’r dde ohonoch yn fynwent yn dyddio o 1808. Credir fod y rhesi o goed yn nodi lleoliad beddau y gwyddys amdanynt. Dywedir y defnyddiwyd y nant gyfagos ar gyfer bedyddio.
Trowch i’r chwith a cherdded nes dewch at obelisg (18). Mae hyn yn nodi safle Capel Bedyddwyr Nebo a adeiladwyd yn 1826. Mae’r gofeb yn coffau’r Parch John Emlyn Jones, gweinidog o 1853-61, a ysgrifennodd y gerdd enwog “Bedd y Tlotyn”. Cerddwch heibio Queen’s Villlas i Ysgol Glan-yr-Afon (19) (1897), arferai fod yn safle Ysgol Ramadeg y Sir. Ewch ymlaen at y gylchfan. Dyma’r man lle deuai rheilffordd y G.W.R. i ben – ni chafodd erioed ei hymestyn er cynlluniau i’w chysylltu gyda Gwaith Haearn Beaufort.
Cymerwch y ffordd i’r chwith o Glwb Badminton (Cwm Hir), dilynwch hyn i fyny’r rhiw nes ei fod yn gwastadau ac yna gymryd y llwybr uwchben y ffordd i’ch chwith, sy’n dilyn llwybr tramffordd Beaufort (tua 1794). Ar ben y llwybr byddwch yn gweld Capel Barham (20) (1875). O’ch blaen mae Rhyd-y-blew, hen dafarn goets fawr (21), a hefyd leoliad y Gymdeithas Gyfeillgar gyntaf yn y dref (181), rhagflaenydd undebau llafur. Yn y Rhyd hefyd y byddai Dug Beaufort yn cwrdd â’i gyfeillion cyn mynd i saethu grugieir. Cerddwch i faes parcio’r dafarn ac edrych yn ôl i Barham; roedd clwyd tollau yn y cae i’r dde. Cerddwch o amgylch gefn y dafarn, a chadw i’r dde, i Res Needhams, a heibio Fferm Rhyd Fach – bu llofruddiaeth erchyll yma unwaith!
I’r dde ohonoch gwelwch Gapel Carmel (22), a godwyd yn wreiddiol yn 1821, mae’r adeilad cyfredol yn dyddio o 1865. Trowch i’r dde yn y gyffordd a chroesi’r ffordd wrth y groesfan sebra. O’ch blaen mae Eglwys Dewi Sant (23) (1892). Oddi yma, trowch i’r chwith a cherdded dros y bont, gwnaethpwyd y gwaith haearn ar ei chyfer yn Nhredegar yn 1907. Dilynwch y ffordd i fyny Beaufort Rise, nes gwelwch Swyddfa’r Post ar y chwith ichi. Cymerwch y troad i’r dde i’r Waun Goch – mae’r enw yn dyddio o pryd y cadwyd carreg haearn yma. Datblygwyd yr ardal i ddarparu tai ar gyfer gweithwyr Gwaith Haearn Beaufort (y cyntaf yn y dref – sefydlwyd yn 1779). Tyfodd y strydoedd o amgylch cris-croes o dramffyrdd.
Oddi yma, ewch i lawr y bryn ac ar y llwybr troed a elwir y Pits. Byddwch yn clywed swn dwr rhedegog yn y tyfiant i’r dde ohonoch. Sianelwyd y nant hon i fwydo’r olwyn ddwr yng Ngwaith Beaufort. O fewn y tiroedd hyn safai Plas Gwaun Ebwy (24), (a alwyd wedyn yn Dy Beaufort), cartref lleol Edward Kendall, y meistr haearn. Parhewch hyd waelod y llwybr. Cafodd y ffwrnesi eu gosod i’r glannau ar y chwith i chi, fodd bynnag byddai’r lefel isaf wedi bod yn llawer is bryd hynny. Trowch i’r dde, a chroesi’r ffordd tuag at yr afon. Os edrychwch ar y ba cerrig sy’n mynd â’r afon dan y ffordd, medrwch weld olion tramffyrdd, mae hyn yn rhoi syniad i chi o lefel y ddaear yn y 1780au.
Yn awr cerddwch drwy Deras Beaufort (cartref siop y Cwmni) nes cyrraedd Neuadd y Pensiynwyr. Yn y cylchfan, cymerwch yr ail allfan ar y chwith i chi, i Heol Newchurch. Dilynwch y ffordd wrth iddi droelli, ac yna edrych i chi ar y ffordd gyntaf i’r chwith ohonoch – adeiladwyd y ty carreg mawr a adferwyd yn ddiweddar gan Crawshay Bailey, y meistr haearn, ar gyfer un o’i feibion. Cerddwch ymlaen nes i chi gyrraedd troad i’ch chwith gydag arwydd Newchurch, a chymerwch y fforch dde hyd at olion Eglwys Sant Ioan (25) (1843). Crawshay Bailey a dalodd am hon hefyd, fodd bynnag ni chafodd lawer o ddefnydd a daeth yn anniogel o fewn 50 mlynedd o’i chodi, a chafodd ei dymchwel maes o law. Dywedir fod ysbryd gwraig ifanc dlawd a dwyllwyd gan ei chariad i briodas anghyfreithlon ac a adawyd yn feichiog tra priododd ef i deulu o forwyr cyfoethog. Beth amser wedyn canfuwyd hi a’i baban wedi’u boddi yn yr afon yn y cwm islaw. Ni wyddys os iddi ladd ei hunan, neu os iddi gael ei llofruddio i sicrhau ei bod yn cadw’n dawel. Boddodd priodferch newydd y cnaf ei boddi yn y môr.
Yn ôl y briffordd, cerddwch heibio nes dod i’r King’s Arms (26), un o dafarnau hynaf y dref. Croeswch y ffordd yma chymeryd y llwybr serch i’r chwith ohonoch i lawr i Ysgol Pontygof (1881), a lywodraethwyd gan Fwrdd Ysgol Plwyf Aberystruth. Drws nesaf i’r ysgol mae Capel Ebeneser e (27) (1882 – ailadeiladwyd yn 1850). Oddi yma, cerddwch at y drofa yn y ffordd. Ar y dde mae Tafarn y Bridgend, a thu hwnt i hynny medrwch weld prif glwyfi Parc Eugene Cross, cartref Clwb Rygbi Glyn Ebwy.
Dilynwch y ffordd i’r chwith ohonoch, heibio rhes fechan o dai ac i dy mawr yn ei erddi ei hunan – hwn oedd cartref y gorsaf feistr. Yn awr cymerwch y llwybr dan y bont droed fodern ...
LLWYBR B – TRO FYRRACH
Dylai’r rhai sy’n dymuno cymryd y dro fyrrach yn awr groesi’r briffordd o flaen y cofebion rhyfel a cherdded at glwydi Parc Eugene Cross – a enwyd er anrhydedd syr Eugene Cross, Y.H. a fu’n noddi Pwyllgor Llesiant y Dref ar hyd ei oes. Trowch i’r dde, i Ffordd y Gwaith Dur a cherdded dan y bont droed fodern ..
LLWYBR B YN AILYMUNO Â LLWYBR A YMA
Yr ydych yn sicr o sylwi ar y bont garreg drawiadol o’ch blaen (28). Mae hyn yn cysylltu canol y dref gyda’r Drenewydd. Mae nifer o fwâu yn rhedeg drwyddi; y cyntaf, a adeiladwyd yn 1790 dros yr afon, gwnaed ail doriad yn 1813 i ddarparu ar gyfer y dramffordd tra adeiladwyd bwa ffordd carreg yn 1861.
Ewch ymlaen dan y bont ac yn syth ymlaen nes y gwelwch wal enfawr wedi’i osod yn y bryn i’r chwith ohonoch. Dyma iard Pedwar Deg Pump (29), cofeb i’r diwydiant a luniodd y Dref. Roedd ffwrneisi blast ar y safle hon yn smeltio haearn yn barhaol rhwng 1790 a 1920. Am flynyddoedd lawer gwaith Pen y Cae oedd enw’r safle, oherwydd fod y tir ar les gan John Miles, perchennog fferm Pen y Cae ar y mynydd uwchben. Adeiladwyd y prif beiriant chwythu (oedd yn rhoi’r blast) yn 1865 ac ef oedd y mwyaf yn y byd. Caiff yr iard ei henw o’r peiriannau gyda silindrau 45” a osodwyd yn 1879 ym mhen gogleddol y safle.
Cerddwch ymlaen nes y gwelwch adeilad bric coch trawiadol gyda thwr cloc (30). Dan enw Swyddfeydd Cyffredinol, adeiladwyd yr adeilad ar safle Siop y Cwmni a swyddfeydd cynharach. Gosodwyd y garreg sylfaen ym Mai 1914 ac fe’i cwblhawyd tua 1920. Daeth mecanwaith y cloc o bentref Victoria ( a ddymchwelwyd amser maith yn ôl ond a ailddatblygwyd fel rhan o barc yr Wyl).
Ewch yn ôl nes cyrraedd croesfan sebra. Croeswch yma ac edrych ar grwp o adeiladau o’ch blaen. I’r chwith ohonoch mae clwb RTB (31), a enwyd ar ôl Richard Thomas a Baldwin a gymerodd waith Glyn Ebwy trosodd yn y 1903au. Defnyddiwyd rhan hynaf y clwb ar un amser fel preswylfa meistr haearn, ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu’n gwasanaethu fel ysbyty milwrol. Gan symud yn nhrefn cloc, yr adeilad nesaf yw Neuadd Lever (32), a adeiladwyd yn 1955. Yma chynhaliwyd pantomeimau RTB a digwyddiadau eraill – mae’n dal i gael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer digwyddiadau lleol. Yr adeilad olaf (33) yw’r Crofft (1924), mae ei ddefnyddiau wedi cynnwys preswylfa rheolydd glofa a swyddfa Stadau.
Cerddwch heibio cysgodfan bws at y gyffordd, croesi’n ofalus a chymryd y llwybr sy’n dringo fyny’r lan i’r chwith ohonoch. Ar y top, cymerwch y troad i’r chwith ohonoch cyn y bwa i mewn i’r Cilgant. Dilynwch y ffordd fel y mae’n troelli. Ar ben y Cilgant byddwch yn gweld cwrt bychan i’r dde ohonoch. Dyma Sgwâr y Frenhines (34), sy’n ymgorffori Bon y Dderwen, ffermdy o’r 17eg ganrif (y dywedir ei fod yr adeilad hynaf yng Nglyn Ebwy). Trowch i’r chwith wrth y gyffordd. Yr adeilad i’r chwith ohonoch yw’r Rookery – yma roedd yr ysbyty gwirfoddol lleol, a ddaeth wedyn yn gartref mamolaeth. Dilynwch y ffordd i fyny’r bryn a chroesi’r briffordd ar y top. Cerddwch yn syth ymlaen, drwy faes parcio i’r anabl ac i’r ardal cerddwyr yng nghanol y dref. Trowch i’r chwith a pharhau i gerdded nes cyrraedd y farchnad dan do – yma, trowch i’r chwith eto a cherdded ymlaen at y fynedfa i’r maes parcio.




