Tro A
Abertyleri
Tyfodd tref Abertyleri ar hyd ochr cwm i ddwyrain y gwaith tun a daeth yn ganolfan fasnachol bwysig ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Mae’n dref o olygfeydd syfrdanol a chryn gymeriad yn sgil codi adeiladau tri a phedwar llawr ar safle serth iawn.Gan adael maes parcio Pont y Ffowndri (1), cerddwch i’r de ar hyd Stryd yr Eglwys i Eglwys San Mihangel (2), eglwys plwyf Abertyleri. Adeiladwyd yr eglwys gyntaf yn 1854 ond ailadeiladwyd rhannau helaeth ohoni yn 1874 ac mae’n adeilad rhestredig.
Gyferbyn â wyneb deheuol Eglwys San Mihangel mae’r Arcêd (3). Adeiladwyd hyn yn 1898, fersiwn oes Fictoria o ganolfannau siopa heddiw.
Rhwng yr Eglwys a gorsaf bysus y Stryd Fawr mae llwybr troed gyda wyneb tarmac yn arwain i’r dde. Dilynwch y llwybr ar i waered drwy ardal goediog i Lyfrgell Tyleri. Y nant brysur ar waelod y lan yw Afon Tyleri, y cafodd y dref ei henwi ar ei hôl.
Croeswch y ffordd o flaen y llyfrgell a dilyn y llwybr i lawr i’r danffordd (5) yn rhedeg dan yr A467 newydd. Yn danffordd mae murlun mosaig mawr yn dangos golygfeydd o orffennol Abertyleri. Wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Kenneth Budd, cafodd y murlun ei gomisiynu a’i ariannu gan Gyngor Sir Gwent. Cerddwch drwy’r danffordd a throi i’r chwith heibio’r Railway Inn (atgof o ddyddiau Abertyleri fel canolfan reilffordd bwysig). O’ch blaen mae safle Ffowndri Warwill (6). Bu Warwill (Founders) Cyfyngedig yn cynhyrchu castiau ansawdd uchel ar gyfer pwrpasau diwydiannol yn ogystal ag addurnol rhwng 1874-1995. Agorodd gwaith tun ar yr un safle yn 1846, gyda phwll gefail ac olwyn ddwr enfawr. Arweiniodd hyn at ddatblygiad setliad newydd ar “Y Twmp” (yr ardal o amgylch Eglwys San Mihangel) – craidd y dref fodern.
Mae’r darn o ffordd o’ch blaen yn gorchuddio’r fan lle mae’r afonydd Tyleri ac Ebwy Fach yn cwrdd (7). Yn y 18fed ganrif roedd pont garreg fechan yn croesi’r Afon Tyleri yma, lle arferai Anne Watkin Harry guddio rhag ei gwr Edmund David, oedd â thymer ffiaidd. “Abertilleri” oedd enw’r ffarm gyfagos yn wreiddiol, a syrthiodd merch Anne ac Edmund mewn cariad gyda gwas yno o’r enw Jerimiah James. Yn erbyn dymuniad ei rhieni priododd y ddau gariad, ac am flynyddoedd ymdrechodd Edmund David i chwalu’r briodas. Flynyddoedd lawer wedyn roedd yr un Jerimiah James yn dyst i hunanladdiad John Jenkins o Abertyleri gan weld “the resemblance of a man coming from the hay loft, and violently turning upwards and downwards, topsy-turvy towards the river,……an evil spirit going with his prey, the self murderer, to hell”.
Yn 1799 aeth yr Archddiacon Coxe dros y bont hon ar un o’i deithiau hanesyddol drwy Sir Fynwy ac mae ei ddisgrifiad o’r olygfa yn ddiddorol tu hwnt:
“Thickly clothed with underwood and occasionally tufted with hanging groves of oak, beech, ash and alder; the wild raspberry twining in the thickets, and the ground overspread with the wood strawberry. The rapid torrent beneath was sometimes half obscured by trees, and sometimes re-appeared in, as it bounded over its’ rocky channel, illuminated by the rays of a mid-day sun”.
Ewch yn ôl drwy’r danffordd ac yna gerdded i fyny’r bryn i’r chwith o’r orsaf dân nes ailymuno â’r Bont Ffowndri.
Tro B
Cwmtyleri
Man cychwyn – Maes Parcio Cwmtyleri (1).
Gyda’r llynnoedd tu cefn i chi, edrychwch i’r dde a gwelwch ddwy olwyn glofa mewn sylfaen carreg (2), codwyd y rhain yn 1987 i nodi safle cyn Lofa Cwmtyleri a agorodd yn 1850.
Yn awr dechreuwch gerdded, gan gadw Llynnoedd Cwmtyleri i’r chwith ohonoch. Dilynwch y ffordd dros y grid gwartheg ac ar yr ochr dde gwelwch Eglwys San Pawl (3). Adeiladwyd hyn fel capel lleol yn 1890 ar gost o £1,250. Cerddwch ymlaen nes dod at glwyd fawr gyda llwybr gro yn arwain ohoni. Dilynwch y trac hwn dros y bont wrth iddo blygu’n ôl am 50 llath cyn dod â chi i’r maes parcio (4) yn edrych dros y llyn isaf. Rydych yn awr yng Nghwmtyleri ac mae’n rhwydd gweld pam y gwirionodd Edmund Jones am y lle yn 1779.
“And of the three valleys, the valley of Tileri on the East side of the parish is the most delightful. The trees which are the chief glory of the Earth, especially the beech trees, abounding about rivers great and small, the hedges and lanes make these place exceedingly pleasant and the passing by them delightful and affecting; so that well built houses with gardens, trees and wall buildings about them in these warm valleys, with the prospect of the grand high mountains about them would make very delightful habitations”.
Ymddengys nad oedd Cwmtyleri wedi newid llawer erbyn 1799 pan ddisgrifiodd yr Archddiacon Coxe ef fel:-
“An extensive district well peopled, richly wooded, and highly cultivated, almost rivalling the fertile counties of England…. we looked down with delight upon numerous valleys which abound with romantic scenery….”
Bu amaethu yn y cwm o’r cyfnodau cynharaf. Dengys cofnodion o 1694 fod John Lewis Thomas, Evan John Harry a Lewis Harry Lewis ymysg y tyddynwyr.
Byddai hyn i gyd wedi newid erbyn canol y 19eg ganrif. Yn 1850 suddwyd Glofa Cwmtyleri – roedd y Chwyldro Diwydiannol wedi cyrraedd!
Adeiladwyd y lofa ar safle fferm o’r enw Tir Nicholas a rydym yn ffodus i John Russell, perchennog y lofa ysgrifennu disgrifiad o’r lle yn 1853 cyn i’r gwaith ddechrau ar adeiladau’r lofa:
“A typical Welsh valley farm with massive gables and stone tiled roof, situated low in the valley for shelter. The front garden was surrounded by hedges of Holly and Beech and its stone flagged pathways were lined with dwarf bunders of clipped box bushes. Near the house was its water mill. Inside the house sat two women working at a spinning wheel, making wool for knitting or weaving. Large sides of bacon hung from the rafters, and simple food including milk, butter and cheese made from ewes’ milk, and instead of wheaten bread, crisp fresh oat cakes was the diet”.
Suddwyd siafft yn 1858 ac yn 1860 agorwyd pwll Pen-y-Bont ymhellach i lawr y cwm.
Ar ochr arall y ffordd byddwch yn gweld cae mawr llethrog gyda chyfres o lannau a gweithiau pridd. Gelwir hwn “Cae Twmp” (5) a chredir ei fod yn olion setliad cyn hanesyddol, er bod yn rhaid cyfaddef fod diffyg tystiolaeth archeolegol gadarn o hyn.
Trowch i’r chwith a dilyn y ffordd am tua 100 llath i’r gogledd. Yma mae pant yn y ffordd i groesi nant fechan – Nant Gwrhyd. Trowch i’r dde ac i fyny bryn mae ysgubor fechan mewn coedlan (6). Hon unwaith oedd Ysgubor Gwrhyd Bach, darganfuwyd porth Tuduraidd yma rai blynyddoedd yn ôl ac fe’i rhoddwyd i Gymdeithas Amgueddfa Abertyleri, cysyllter â’r llyfrgell i gael manylion am Gymdeithas yr Amgueddfa. Ystyr “Gwrhyd” yw’r pellter rhwng dwylo dynion ar led, a gall gyfeirio at gulni’r cwm.
Ar draws Nant Gwrhyd, i’r de, mae Fferm Gwrhyd Mawr (7). Arferai hyn fod yn gartref i Mari’r Gwrhyd, gwrach adnabyddus a roddodd felltith ar Fferm Hendre Gwyndir ymhellach i fyny’r cwm.
Tua 100 llath i fyny’r ffordd byddwch yn pasio ty ar y llaw chwith i chi a mynediad i waith puro Cronfa Cwmtyleri a’r ardal gwlypdir newydd. O’ch blaen, gwelwch glwyd a chamfa, dilynwch y llwybr troed i’r gogledd ar draws y caeau. Y llyn mawr ar y chwith yw Cronfa Cwmtyleri (8) – a adeiladwyd gan Gyngor Dosbarth Trefol Abertyleri yn 1906.
Dilynwch y llwybr troed am tua ½ milltir, ar y llaw dde ar waelod glyn serth mae Fferm Hendre Gwyndir (9). Defnyddir Hendre Gwyndir yn awr fel ysgubor, a bu’n ddigon llewyrchus unwaith i gyflogi gweision a morwynion. Galwodd Mari’r Gwrhyd, y wrach o Fferm Gwrhyd Mawr, unwaith yn begio am dorth o fara. Rhoddwyd torth iddi, ond pan ganfu farlys yn ogystal â gwenith yn ei bara, gwylltiodd a dodi melltith ar wartheg Hendre Gwyndir. Ar ôl hynny, er corddi am ddyddiau, ni fedrid gwneud menyn o’u llaeth, roedd toes yn rhedeg ac yn glynu, ac aeth y moch yn wael pan fwydwyd ef iddynt. Ai melltith Mari oedd achos dirywiad Hendre Gwyndir?
O’r gamfa yn Hendre Gwyndir, ac edrych ar draws y cwm, medrwch weld helm newydd (10). Adeiladwyd hyn ar weddillion Pant Du neu Dy’r Frenhines a ddynodwyd gan W. F. Deasy ac Arglwydd Rhaglaw fel cartref un o goedwigwyr Coedwig Tyleri yn nechrau’r 14eg ganrif. Roedd yn rhan o Arglwyddiaeth y Fenni a sonnir amdano mewn cofnodion yn dyddio o mor bell yn ôl â 1250. Mewn archwiliad diweddarach canfuwyd llety’r gweision, ynghyd â fflasg win yn dyddio o’r 17eg ganrif.
Yn union uwch ben Hendre Gwyndir i’r dwyrain mae Twyn Ffynhonnau Oerion. Mae’r ffynhonnau oer dan sylw yn y bryn. Yn yr hen ddyddiau credid fod ganddynt bwerau iachau, a byddai pobl yn teithio am filltiroedd i ymolchi eu clwyfau a cheisio iachâd. Yn y 18fed ganrif roedd y ffynhonnau yn fan poblogaidd i'r byddigions lleol gael saib ar eu teithiau saethu dros y rhosydd. Yma y canfu Robert ap Watkin o Cwm Celyn ei fulod ar ôl i Hen Ann, gwrach oedd yn byw yn agos, fwrw hud arnynt.
Ar ôl cerdded dros y gamfa yn Hendre Gwyndir a cherdded i’r gogledd ewch i fewn i olion Coedwig Tyleri neu Goed Enynfa. Mae’n bosibl fod yr enw yn deillio o losgi siarcol, un o’r diwydiannau bach sy’n gysylltiedig gyda choedwigwyr y canol oesoedd. Mae’r llwybr yn awr yn arwain i lawr y bryn drwy’r goedwig i glwyd fechan ar ymyl gogleddol y goedlan. O’ch blaen mae pant fechan yn croesi’r Afon Tyleri, croeswch hon ac yna gadw i’r de, gan ddilyn y wal gerrig sych sy’n gweithredu fel terfyn cae ar ochr orllewinol yr afon.
Mewn tua 200 llath mae’r llwybr hwn yn dod â chi i bant serth siâp basn, Pant Du. Wrth edrych ar draws y cwm i’r gogledd ddwyrain medrwch weld fferm waith sylweddol, Gilfach Green (11). Ei hen enw yw Llan-ty-Teri, a chafodd ei hailadeiladu gan Crawshay Bailey, meistr haearn Nantyglo yn 1840 fel lluest hela. Mae’r cenelau yn dal yn gysylltiedig â’r fferm. Ymhellach i fyny’r cwm mae olion Blaentyleri, Ty Isaf a Blaencwm.
Dilynwch wal y cae o amgylch gwaelod Pant Du nes ei fod yn fforchio i’r chwith. O’ch blaen, mae llwybr caregog yn arwain i’r de i lawr y cwm. Ewch ar y llwybr hwn am tua 500 llaeth a rydych yn union uwchben Cronfa Cwmtyleri. Oddi tanoch, byddwch yn gweld olion trawiadol ffermdy carreg – Ty Nest Llywelyn. Yn cael ei galw hefyd yn Nest John Rosser (ar ôl ei thad), rhoddodd Nest gysgod i’r anghydffurfwyr cynnar yn ystod cyfnod o erlyniad yn y 1670au pan fuont yn cwrdd am gyfarfodydd gweddi a gwasanaethau yn ei chartref. Cafodd ei llusgo o flaen yr ynadon am wneud hynny a’i bygwth gyda dirwyon a charchari. Dywedwyd am William John Rosser, brawd Nest:-
“He was a very kind charitable man, helping the poor about him, with milk and oatmeal, and being a weaver would make clothes for the poor ... it was also said of him, that, in the market, he would give cans of ale to one and another of his acquaintance, who, he thought, were poor and unable to pay, drinking but little himself ... I hear a firm old church woman say ... if any of the Roundheads ever went to heaven ... William John Rosser went thither”.
Dilynwch y llwybr i lawr y cwm. Mewn tua ½ milltir, wrth i chi fynd drwy ardal fawr o dir wedi’i adfer, fe welwch lyn coediog yn uchel ar y bryn i’r gorllewin. Dyma safle Llannerch Padarn (12). Yma y darganfu W. F. Deasy ben bwyell o Oes yr Efydd (3,500 CC), sydd i’w gweld yn Amgueddfa Abertyleri.
Wrth i chi barhau ar y llwybr i lawr y bryn i ddychwelyd i’r llyn isaf, fe sylwch ar graig fawr i’r gorllewin. Dyma Pant y –Darren (13) sy’n nodi safle Capel Methodistiaid a rhes o dai, a gafodd eu dinistrio gan dirlithriad ym mlynyddoedd cynnar y ganrif diwethaf.
Dilynwch y llwybr i’r glwyd ar y briffordd drwy Cwmtyleri ac yn ôl i’r llyn isaf.




