Teulu Williams Fferm Hafodafal

Teulu Williams Fferm Hafodafal

Mae Fferm Hafodafal yn dy hir Cymreig ac ysgubor a godwyd yn y 17eg ganrif ar y mynydd rhwng Cwm a Chwm Big. Mae to’r ty bron wedi diflannu bron yn llwyr erbyn hyn ac mae’r rhan fwyaf yn furddun.

Mae Hafodafal (enw cywir Hafod-afael) ac yn niwedd y 18fed ganrif roedd yn cynnwys
"four delightful habitations and estates upon this delightful mountain; and among the rest, and beyond the rest, a house of Justice Williams, well built and delightful, and the air very wholesome about it" (Jones 1779, 58).

Roedd teulu Williams Hafodafal yn un o dri theulu brodorol amlwg oedd yn berchen ar ffermydd mawr neu stadau yng nghwm Ebwy Fawr ddechrau’r 18fed ganrif. Y teuluoedd eraill oedd teulu Miles o Dy Llwyn a Phenycae a theulu Lewis o Drysiog (Gray Jones 1970, 15). Dywedwyd fod y teulu Williams yn amlwg am fod yn olygus, ac fel y dywedodd Edmund Jones yn 1779:

"In the former part of this Century there were ten or twelve of the female sex, most of them of the Havodavel family, who, had they appeared together, would have made a very taking appearance, such as would have no reason to be ashamed of their personal appearance in any company in the World." (Jones 1779, 60)

Yn 1733 gadawodd Edmund Williams ddeg bwsiel o flawd ceirch i’w rhannu ymysg tlodion y plwyf a deg swllt yr un i ddwy forwyn a dau was. Ar ôl rhoi darpariaeth hael ar gyfer ei wraig, gadawodd y gweddill i William, ei fab teirblwydd (Gray-Jones 1970, 25).

Yn nes ymlaen yn ei fywyd, galwyd William Williams fel Ustus Williams, gan fod yr unig ynad yn yr ardal mae’n debyg. Roedd yn fan o gryn eiddo gan gadw pac o gwn, ac fe’i gelwid yn lleol yn Ustus Crys Coch oherwydd ei fod yn gwisgo crysau gwlanen coch o hyd (Bradney 1906, 474). Fe’i ganwyd yn 1730 ac aeth i’r ysgol yn Lloegr lle dysgodd ychydig o Ladin a Groeg (Gray-Jones 1970, 24). Ymddengys i William Williams gael ei benodi yn ynad tua 1760 (ibid, 15). Bu farw yn 49 oed ar 24 Mawrth 1779.

Roedd carreg goffa iddo a oedd unwaith ar wal orllewinol eglwys Aberystruth yn ddistaw am ei rinweddau, ond disgrifiodd taflen ddifrïol a argraffwyd yn 1774 ef fel meddwyn a dyn anfoesol a hunanol oedd yn gyfarwydd yn ffeiriau Y Fenni a Llandrindod ac a welid yn aml yn Mryste. Mae ei ewyllys yn sicr yn wahanol iawn i un ei dad; mae wedi ei geirio’n wael ac yn swta ac yn edrych pe bai iddo’i llunio ei hunan. Ni adawodd dim i dlodion y plwyf, a “gorchmynnwyd”  i’w fab Edmund a etifeddodd y rhan fwyaf o’r stad dalu £200 i’w chwaer Margaret ar rai amodau (ibid., 25).

Yn ôl Edmund Jones, roedd y tylwyth teg yn ymweld yn aml â Hafodafal:

"The Fairies seem not to delight in open plain grounds of any kind, far from stones and wood, nor in watery, but in dry grounds, not far from Trees and Hedges, and the shade of grown Trees, the female Oak especially . . . Of all the places in the Parish of Aberystruth, they most frequently appeared at Havodavel, and Keven Bach, which are dry lightsome pleasant places." (Jones 1779, 76-7)

Datganodd pobl leol fod gan y Telwyth Teg arweinydd yn eu mysg:

"Thomas William Edmund of Havodavel an honest pious man, who often saw them declared, that they appeared with one bigger then the rest going before them in the Company."(ibid., 72)

Cyfeiriadau

Bradney, J.  1906.  A History of Monmouthshire: The Hundred of Abergavenny
Cyfrol I, Rhan 2b (9 cyfrol, atg. Academy Books, 1992).

Gray-Jones, A.  1970. A History of Ebbw Vale (Rhisga: A Gray-Jones).

Jones, E.  1779.  A Geographical, Historical and Religious Account of the Parish of Aberystruth (Trefeca).