3ydd Bataliwn Catrawd Sir Fynwy

3rd Monmouthshire Officers

3ydd Bataliwn Catrawd Sir Fynwy yn y Rhyfel Byd Cyntaf I
Rhagymadrodd

Ffurfiwyd Catrawd Sir Fynwy yn 1908 fel uned y Fyddin Diriogaethol ar gyfer y sir a roedd yn cynnwys tair Bataliwn o wahanol rannau o’r sir. Y Fenni oedd pencadlys y 3ydd Bataliwn (“3rd Mons”) oedd yn cynnwys dau gwmni o Abertyleri, un yr un o’r Blaenau, Sirhywi, Tredegar, Glyn Ebwy a Cwm, ac un cwmni o’r Fenni.

Dechreuodd y rhyfel ar 4 Awst 1914 a daeth o gorchymyn i fobileiddio y 3ydd Mons am 6.10pm yr un diwrnod. Drwy gydol noswaith y 4ydd, bu’r cwmnïau o’r gwahanol drefi a phentrefi yn cynnull a dal trenau i’r Fenni ac ymgasglodd yr holl fataliwn y tu allan i Neuadd y Farchnad ar doriad gwawr 5 Awst. Yn ddiweddarach, gorymdeithiodd y bataliwn i Barc Bailey, lle rhoddwyd te iddynt.

Yn hwyr y noswaith honno, teithiodd y bataliwn gyda thrên i Ddoc Penfro lle gwnaethant ymuno gyda gweddill Brigâd Gororau Cymru – Bataliwn 1af ac 2il Fataliwn Catrawd Sir Fynwy a’r 1af Herefords.  Buont yn aros yn Noc Penfro am bedwar diwrnod cyn symud i Groesoswallt i orffen eu hyfforddiant. Erbyn 31 Awst, roedd yr holl frigâd yn Northampton.
Ym mis Tachwedd, ar ôl bythefnos yn torri ffosydd yn East Anglia, gorchmynnwyd y bataliwn i baratoi ar gyfer gwasanaeth yn India, Ar 18 Tachwedd, cyrhaeddodd yr offer ar gyfer India – a dilynwyd hynny gan ddileu’r gorchymyn gwreiddiol!

Dychwelodd y Bataliwn i East Anglia a threulio’r Nadolig yno cyn cael eu trosglwyddo i Gaergrawnt ar 10 Ionawr 1915.

Fe’i hadrefnwyd yn bedwar cwmni dwbl (Cwmnïau A, B, C a D) o tua 200 o ddynion yr un.

Ddiwedd mis Ionawr, derbyniwyd gorchmynion ar gyfer gwasanaeth yn Fflandrys a hwyliodd y bataliwn o Southampton ar y S.S. “Chyabassa” ar noswaith 14 Chwefror 1915.


Wulverghem

Ar ôl taith galed ar y trên a gorymdaith, cyrhaeddodd y bataliwn eu biledau yn Steenworde. Yma byddent yn aros am y deg diwrnod nesaf ar gyfer eu hyfforddiant terfynol mewn techneg rhyfela ffosydd. Anfonwyd 40 o ddynion dan y Cadfridog Lancaster i Ypres i ymuno gyda dynion o’r Bataliwn 1af i ffurfio uned newydd – y 171ain Cwmni Twnnelau a welodd wasanaeth am y tro cyntaf yn yr “Hill 60”.

Yn y cyfamser, ar ôl eu cludo i Bailleul mewn fflyd 0 100 o fysus Llundain, postiwyd gweddill yr uned i’r 83fed Frigâd o’r 28ain Adran dan orchymyn cyffredinol y Uwch-gapten Cyffredinol Bulfin ar 6 Mawrth.
Ar 3-5 Mawrth, aethpwyd â phob un o’r tri chwmni i‘r rheng flaen ar gyfer “cyfarwyddyd pedair awr ar hugain” ar gyfer  milwyr arferol. Ysgrifennodd y Preifat G Norton o Gwmni A at ei deulu:

"The firing line is not as bad as you would think, at least it is not so bad as we expected it to be.  The trenches we have been in are dry ones, and the only thing is the cold nights.  We were shelled rather heavily last Tuesday; but our guns gave them something after.  The men we were in with didn't seem to mind much.  They say "Keep your napper down and you're alright!""

Ar noswaith 12 Mawrth, anfonwyd y bataliwn i’r llinell flaen ger pentref bach o’r enw Wulverghem tua 5 milltir i’r de o Ypres. Roeddent yn gyfrifol am tua 1000 llath o ffosydd a elwid yn 10a a 10b. Yma y buont am bum diwrnod a roedd tanio trwm yn eu herbyn bron yn barhaol. Ysgrifennodd y Preifat A. E. Jones, o’r Adran Gynnau Peiriant (dan yr Is-Gapten Martin o’r Hill) gartref:

"The Gun Section has been in the trenches.  We went in last Friday week and came out on Wednesday night . . . We had two killed and eight wounded out of our battalion, so you can guess we had it a bit rough . . . The trench I was in had it the worst, I think, as they knew we had the machine gun there.  I thought our number was up, as they shelled us for an hour and ten minutes.  I don't think I want to go through the same thing again.  One good thing was we had fine weather during the time we were there . . ."

Parhaodd y bataliwn â’i wasanaeth rheng flaen yn yr ardal hon hyd 2 Ebrill pan yr aethpwyd â hi o’r llinell am gyfnod byr iawn o orffwys. Ar 6 Ebrill, archwiliwyd yr holl frigâd ei harchwilio gan y Cadfridog Syr H. Smith-Dorrien ac ar 8 Ebrill cludwyd y bataliwn gyda bws i Ypres.

Ypres

Pan gloddiodd y byddinoedd i mewn yn ystod gaeaf 1914-1915, datblygodd llinellau’r Cynghreiriau chwydd mawr o amgylch tref Ypres yng Ngwlad Belg. Hwn oedd yr “Ypres Salient” enwog a golygai’r tirlun fod y lluoedd Prydeinig yn yr ardal wedi eu hamgylchynu ar dair ochr gan fyddinoedd yr Almaen. Yma, ar 22 Ebrill 1915, y defnyddiodd yr Almaenwyr nwy gwenwynig am y tro cyntaf fel rhagarweiniad i un o ymosodiadau mwyaf penderfynol y rhyfel. Byddai’r frwydr ddilynol – a alwyd yn Ail Frwydr Ypres – yn parhau am bron i flwyddyn ac yn costio cannoedd o filoedd o fywydau ar y ddwy ochr.

Ar ôl cyrraedd Ypres ar 8 Ebrill, symudodd y 3ydd Mons yn syth i’r rheng flaen. Byddent yn rhyddhau’r milwyr Ffrengig i ddwyrain Coedwig Polygon a threuliasant y pedwar diwrnod nesaf yn y llinell danio. Ysgrifennodd y milwr Reg Pritchard gartref at ei chwaer:

"It is much worse fighting where we are now to what it was in the last place.  One of the chaps out of the same section as I am got wounded in the leg yesterday morning as we were leaving the trenches.  One man got killed in our company by a trench mortar shell, he was in the same platoon as dad."

Ar ôl arhosiad byr yn Ypres ei hunan, canfu’r bataliwn ei hunan yn ôl yn y rheng flaen ar 17 Ebrill. Byddent yn aros yma heb ryddhad am y 17 diwrnod nesaf. Brynhawn 2 Mai, glaniodd ffrwydryn ymysg yr adran gynnau peiriant. Ysgrifennodd y Corporal Bosley, o Dredegar, gartref at ei rieni i ddweud wrthynt am farwolaeth ei frawd, Fred:

"I do not know how to write this letter, which is to convey such bad knews and to give you all such a blow.  Poor Fred was killed by a shrapnel bullet at about 4 p.m. on Sunday May 2nd.  He died instantly.  He and Lieut. Martin were killed by the same shell.  They buried them in an open space by a wood and I followed his last remains to the grave where the Colonel read the burial service.  I cannot write anymore.  He came to me about twelve o'clock.  I wish I had kept him with me."
     
Roedd yr ymosodiad nwy ar 22 Ebrill wedi achosi panig mawr ymysg y Ffrancwyr ac ysgubodd lluoedd yr Almaen drwy’r bylchau a agorwyd yn y rheng flaen. Ymdrechodd milwyr o Ganada a Brydain i wrthsefyll yr ymosodiad, ond ar ôl tanio arnynt yn ddi-dor  a cholli llawer iawn o ddynion, fe’u gorfodwyd i symud yn ôl i linell amddiffynnol newydd. Aeth y 3ydd Mons o Goedwig Polygon ar noswaith 2/3 Mai ac ad-drefnu ar linell newydd GHQ yn Potizje. Symudodd Cwmni A (Capten Baker) a Chwmni C (Capten Steel) yn ôl i’r ffosydd wrth gefn. Roedd Cwmni B (Capten Gattie) ar y rheng flaen tra arhosodd Cwmni (Uwch-gapten Lewis) wrth gefn yn Potizje.

Ar noswaith 4 Mai gwelwyd dechrau bomio ofnadwy gan yr Almaenwyr gydag ymosodiad o’r newydd i ddilyn. Collwyd nifer enfawr o ddynion a roedd y milwyr ar y rheng flaen yn hollol luddedig. Y bore trannoeth (5 Mai) arweiniodd y Capten Steel hanner Cwmni C i gyfnerthu’r llinell flaen. Cawsant eu dal gan dân gynnau peiriant yr Almaen a chollwyd nifer fawr o ddynion. Roedd y Capten Steel yn feddyg wrth ei broffesiwn ac aeth ati i drin y clwyfedig yn ogystal ag arwain yr ymosodiad a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo yn ddiweddarach. Ysgrifennodd un o’r dynion yn ei gwmni, y Preifat A. M. Mitchell at ei deulu:

"Words utterly fail me to say what a hero Capt. O. W. D. Steel was during that fearful struggle.  From every person I meet they tell me the same tale.  Under very heavy shell and maxim fire he went out and fetched in wounded, bandaging them and if he doesn't deserve the V.C. no man on earth ought to get it . . . I would like you to let everyone in Abergavenny know what a brave officer he is."

Awr yn ddiweddarach, ceisiodd Cwmni A (dan y Capten R A Lewis) hefyd gyfnerthu’r rheng flaen ac eto collodd lawer iawn o ddynion. Dyfarnwyd y D.C.M. i’r Preifat I Skidmore am weini i’r cleifion nes iddo gael ei anafu mor wael ei hun fel na fedrai gario ymlaen.

Doedd 6 Mai yn ddiwrnod “tawelach”. Roedd llai o danio a dim ymosodiad gan yr Almaenwyr. Dychwelodd y ffrwydron eto ar 7 Mai a dechreuodd nifer y rhai a laddwyd gynyddu eto.

Ar fore 8 Mai, roedd gan y bataliwn dri chwmni yn y llinell flaen ac un wrth gefn. Hanner milltir i’r gogledd, roedd y 1af Mons yn ymladd gyda’r 83ydd Brigâd. Dechreuodd bomiau’r Almaenwyr am 5.30am gydag ymosodiad cyntaf y milwyr troed am 8.30. Gwrthsafwyd hyn. Dechreuodd y ffrwydron bron eto ar unwaith ac am 9.30am ymosododd yr Almaenwyr eto a’u gyrru yn ôl. Dyna fyddai’r patrwm drwy gydol y dydd.

Ar ôl awr arall o ffrwydron, roedd y llinell flaen fwy neu lai wedi ei dinistrio’n llwyr ac ychydig o oroeswyr oedd o Gwmnïau A a D. Cafodd y rhai a oedd ar ôl eu lladd gan ynnau peiriant yn ceisio gwagu’r ffosydd rheng flaen. Dim ond 29 o ddynion oedd ar ôl o’r 500 o ddynion yng Nghwmnïau A a D.

Cafodd goroeswyr Cwmni C eu gorfodi’n ôl i bencadlys y bataliwn lle gwnaethant ailgynnull. Arweiniodd y Cyrnol Gough, comander y bataliwn, hwy mewn gwrthymosodiad ar Frezenberg. Buont yn eu safle newydd hyd 11.00am pan orchmynnwyd hwy i gilio.  Fe’u cawsant eu hunain yn ôl yn lle’r oeddent wedi dechrau ohono ar 3 Mai yn Potizje. Am 2.30pm ac eto am 3.30, ymunodd y 3ydd Mons mewn gwrthymosodiad ar Verorenhoek. Daeth hyn maes o law i ben am 5.30pm. Cafodd y bataliwn ei thynnu o’r llinell danio a gorymdeithio i filet yn Vlamertinghe. Ysgrifennodd y Preifat Badham o’r Fenni at gyfaill yn yr ysbyty milwrol yn Leeds:

"The 8th was the day I shall never forget.  They started bombarding the same time in the morning, and about half an hour afterwards we could hear a long blast of a whistle, and the attack started.  We were only a handful of men, and they came on in thousands, but we kept them at bay; but I knew we would have to give way before long.  The fellows on our left and right were retiring and we had orders to do the same, but we did not go until we put some more shots into them.  It was in the retirement that we lost a lot of men.  They were bayoneting our wounded that we had to leave behind.  Well, we got back to our second line of trenches, and reinforcements came up.  After that I don't know what happened.  I went to the hospital with shrapnel in my back and a big bruise on my shoulders and the gas in my eyes."

Drwy gydol y frwydr, roedd Cwmni B (dan y Capten Gattie) wedi eu gwahanu o weddill y bataliwn. Roeddent yn y rheng flaen mewn coedwig ger y Porth Coch. Bu tanio trwm yn eu herbyn drwy’r dydd ar 5, 6 a 7 Mai. Yn rhyfedd, mae hanes y bataliwn yn dweud:

"the nights were absolutely quiet, and it was safe to walk about in the open behind the front line.  Rations and letters came up regularly and one fortunate officer even received a tin of cooked sausages!"

Ar fore 8 Mai, bu tanio trwm ar y goedwig a lladdwyd yr Is-Gapten Groves a’r Is-Gapten Palmer pan drawyd y ffos yr oeddent ynddi. Ar ôl dau ymosodiad gan yr Almaenwyr ar y King's Own Yorkshire Light Infantry yn y ffosydd blaen, rhuthrodd Cwmni B ar draws dir agored i’w cyfnerthu a saethwyd y Capten Gardner yn farw. Arhosodd y cwmni yn y ffos flaen drwy’r dydd a chawsant eu torri i ffwrdd o’r milwyr eraill maes o llaw.

Collwyd llawer o ddynion a thaniwyd ar y milwyr gan eu hochr eu hunain tu cefn iddynt. Liw nos, dechreuodd gweddill y cwmni gilio i ailymuno â gweddill y bataliwn. Fel y cyrhaeddsant llinell G.H.Q. ar wawr 9 Mai, gorchmynnodd swyddog staff hwy’n ôl i’r rheng flaen. Cawsant eu tynnu oddi yno’n derfynol ar fore 10 Mawrth a gorymdeithio yn ôl i Vlamertinghe, lle gwnaethant ailymuno â’r hyn oedd ar ôl o weddill y bataliwn.

Ar 11 Mai, aeth y 3ydd Mons yn ôl am gyfnod byr i’r rheng flaen lle anafwyd Lt.Co. Gough, y swyddog mewn gofal. Cymerodd yr Uwchgapten Bridge ei le a symudodd y bataliwn allan o’r llinell i bivouacs yn Poperinghe. Yma cawsant domen o barseli o gartref na fu’n bosibl eu dosbarthu iddynt yn ystod y frwydr – roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi eu cyfeirio at ddynion na fedrent eu derbyn mwyach.

Collwyd llawer iawn o ddynion rhwng 22 Ebrill – 8 Mai. Ar 10 Mai dim ond 134 o’r 1020 o filwyr yn 3ydd Bataliwn Catrawd Sir Fynwy a gyrhaeddodd yn Ffrainc yn Chwefror 1915 oedd yn dal yn fyw. Ar 14 Mai, symudwyd yr hyn oedd yn weddill o’r bataliwn i bentref Winnezeele yn Ffrainc am gyfnod o seibiant ac ad-drefnu.

Roedd Bataliwn 1af ac 2il Fataliwn y gatrawd bron wedi eu colli’n llwyr yn Ypres, ac ar 22 Mai derbyniwyd gorchmynion i weddillion y tair bataliwn i uno dan orchymyn yr Uwch Gapten W S Bridge.
Ar 24 Mai, lansiodd yr Almaenwyr ymosodiad newydd ar Ypres a chanfu’r bataliwn ei hun unwaith eto yn y rheng flaen – y tro hwn yng “Nghornel Tân Uffern”. Cawsant eu rhyddhau y trannoedd a dychwelyd i Vlamertinghe.  Ymunodd yr 2il Mons â hwy ar 27 Mai a chafodd y bataliynau eu huno’n swyddogol ar 28 Mai.

  

Dickebusch a Kemmel

Erbyn 12 Mai, roedd y gatrawd gyfun yn ôl yn y rheng flaen – y tro hwn yn Bois Carre ger Dickesbusch i dde Ypres. Buont yma hyd 19 Mehefin. Yn ôl hanes y bataliwn, bu’r rhan hon o’r llinell yn newid dymunol ond collwyd rhai dynion serch hynny.  Cyn i filwyr arall ddod i’w rhyddhau, roedd y gatrawd wedi colli 7 wedi eu lladd a 32 wedi eu hanafu, yn bennaf yn ystod tanio difrifol ar Gwmni B ar 17 Mehefin. Cafodd y gatrawd ddau gyfnod arall yn y rheng flaen cyn gadael yr ardal hon, o 26 Mehefin - 3 Gorffennaf a 11-14 Gorffennaf. Yn ffodus, collwyd llai o ddynion – 2 wedi eu lladd a 8 wedi eu hanafu.

Ar 19 Gorffennaf anfonwyd y bataliwn am y cyntaf o ddwy daith i’r  rheng flaen yn Kemmel – 19-22 Gorffennaf a 28 Gorffennaf – 2 Awst. Yma cymerodd y gatrawd ran yng ngwrth-gloddio ffrwydryn Almaenig yn syth dan y rheng flaen. Ar 2 Awst saethwyd y Capten Walbeoffe-Wilson, a oedd ond newydd ymuno â’r bataliwn ar 26 Gorffennaf, drwy ei ben wrth iddo edrych dros y parapet.  Cafodd y gatrawd eu rhyddhau a gorymdeithio i lety yn Locre.

Ar 5 Gorffennaf cymerwyd y camau cyntaf i ad-drefnu tair bataliwn gyntaf y gatrawd.Cafodd yr 2il Mons eu gwahanu ar 24 Gorffennaf a gwahanwyd y Bataliwn 1af a’r 3ydd ar 11 Awst. Trefnwyd y 3ydd Mons oedd newydd eu had-drefnu yn bedwar cwmni newydd dan Lt. J. M. Jones, Capt. H. G. Tyler, Lt. L. D. Whitehead a Lt. H.A.Hodges.  Cawsant hefyd eu hailgysylltu â’r 83fed Brigad a dychwelyd i’r rheng flaen yn Kemmel ar 22-28 Awst.

Ar 2 Mai, derbyniodd y 3ydd Mons orchymyn i ymuno â’r 49fed Uned fel un o’r Bataliynau Arloesi newydd.

Camlas Yser

 Yn ystod 1915, daeth yn glir fod angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ar gyfer tyrchu ffosydd tân a ffosydd cyfathrebu ac adeiladu rheilffyrdd ysgafn a phontydd, a bod angen unedau arbenigol i wneud y gwaith hwn a oedd hefyd yn filwyr troed wedi eu hyfforddi’n llawn. Cydnabuwyd yn fuan fod gan unedau a fagwyd mewn ardaloedd glofaol yr holl brofiad a sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rôl hon ac felly ffurfiwyd y syniad o Fataliynau Arloesi. Daeth pob un o dair bataliwn Catrawd Sir Fynwy yn fataliynau arloesi ar gyfer eu gwahanol adrannau.

Ddechrau Medi 1915, anfonwyd y 3ydd Mons i Gamlas Yser ychydig i’r gogledd o Ypres. Fe wnaethant sefydlu pencadlys y bataliwn yn Chateau Elverdinghe a safai ymysg coedwig o goed derw gwych.

Roedd y gamlas a’r llinell flaen islaw lefel y môr yn yr ardal hon a roedd llifogydd a mwd yn broblem barhaol. Aeth y bataliwn ati i adeiladu cyfres o ffosydd draenio i liniaru’r broblem. Ar 21 Medi, symudodd cwmnïau B a D o’r chateau i ffosydd Dunbarton ar lan orllewin y gamlas a dechrau gwaith. Arhosodd y cwmnïau A a C yn Elverdinghe a rhyddhaodd y ddau grwp ei gilydd bob chwe diwrnod.

Gwnaethpwyd y gwaith liw nos a roedd yr amodau yn ofnadwy. Roedd yr Almaenwr ar frig Pilckhem yn y dwyrain a thaniwyd yn gyson ar yr holl ardal. I groesi’r gamlas, roedd milwyr yn gorfod defnyddio pontydd troed dros dro bychain, a ddisgrifiwyd gan haneswyr y bataliwn fel bod yn afiach iawn, gan eu bod yn agored iawn i danio gan yr Almaenwyr. Cafodd nifer fawr eu lladd neu eu hanafu. Roedd y tir yn gorsiog, a suddai dynion yn aml hyd at eu canol mewn mwd a bu’n rhaid iddynt dreulio wythnosau mewn dillad gwlyb mewn tywydd iasoer heb fwyd cynnes.

Ar fore 19 Rhagfyr, taniwyd yn drwm at y chateau a’r gamlas gydag ymosodiad nwy i ddilyn. Symudodd y pedwar cwmni i’r ffosydd i gyfnerthu’r rheng flaen yn erbyn yr ymosodiad disgwyliedig gan yr Almaenwyr. Ni ddaeth yr ymosodiad byth ond saethwyd at y bataliwn bob dydd a drwy’r noson ddilynol a chafodd 40 o ddynion eu lladd neu eu hanafu. Dyfarnwyd y D.C.M. yn ddiweddarach i’r Is-Gorporal Dixon a’r Preifat Moore am achub dynion a anafwyd a dod â hwy drwy’r ffosydd oedd wedi eu dinistrio a thros y pontydd pren simsan dros y gamlas.

Ar 27 Mawrth, aethpwyd â’r bataliwn o’r rheng flaen a chafwyd gorchymyn i adael Camlas Yser. Am 2.30pm ar 29 Rhagfyr, gorymdeithiodd y bataliwn gyfan yn nhir Chateau Elverdinghe cyn symud allan. Wrth i’r dynion ddisgyn i fewn, clywyd swn mawr fel trên yn dod a dechreuodd ffrwydron 17 modfedd gael eu tanio ymysg y dynion. Mewn ychydig eiliau, lladdwyd 39 o ddynion ac anafwyd 30. Ymysg y meirw roedd llawer o’r dynion a oroesodd drychineb Ypres.

Y Somme

Ar gyfer y rhan fwyaf o Ionawr 1916, cafodd y bataliwn orffwys ond erbyn 14 Chwefror roeddent wedi eu symud i sector y Somme i helpu i baratoi ar gyfer y “gwthiad mawr” y gwyddai pawb oedd i ddod. Aeth y gwahanol gwmnïau ati gyda’u tasgau newydd – Cwmni A yn trwsio ffyrdd ger Bouzincourt, Cwmni B yn adeiladu rheilffordd ysgafn drwy goedwig Aveuly ar draws corsydd Ancre ac ymlaen i goedwig Thiepval a Chwmnïau C a D yn gweithio ar “Rhodfa Northumberland”, ffordd newydd yn mynd o Bouzincourt i Martinsart.

Er i weddill y 49fed Adran gael eu rhyddhau ar 5 Mawrth, gadawyd y 3ydd Mons i gario ymlaen gyda’u gwaith arloesi yn yr “ardal ymlaen”. Cawsant eu gwahanu i weithio ar wahanol gynlluniau peirianneg drwy gydol Ebrill a Mai. Dechreuodd Cwmni D adeiladu ffordd newydd o Foreceville i Englebelmer a gafodd ei galw yn “Ffordd Mynwy”. Fe’i cwblhawyd ar 20 Mehefin. Erbyn hyn, roedd y tensiwn yn uchel gan fod yr agoriad ar gyfer Brwydr y Somme wedi ei osod ar gyfer 1 Gorffennaf 1916. Ar 24 Mehefin, adunwyd y 3ydd Mons fel bataliwn a’u gorchymyn i ailymuno â’r 49fed Adran. Gorymdeithiwyd yn ôl i Bouzincourt gan gyrraedd eu cyrchfan am 2 o’r gloch yn y bore ar 1 Gorffennaf.

Pam ddechreuodd ymosodiad Prydain, roedd y bataliwn yn cefnogi’r 36ain Adran (Ulster) a oedd yn ymosod ar y Schwaben Redoubt – cadarnle i’r Almaenwyr – drwy goedwig Thiepval. Erbyn 3 Gorffennaf, roedd y bataliwn yn tyllu ar gyfer llinell flaen newydd i Brydain yn y Schwaben Redoubt ac Ancre. Yma daethant ar draws y meirw ac anafedig yr ymladd ofnadwy a fu eisoes. Bu tanio mawr arnynt . Caiff safle’r ffosydd hyn yn awr ei nodi gan Dwr Cof Ulster.

Ar 6 Gorffennaf, ymosodwyd ar Gwmni A pan yn tyllu ffosydd ger llinellau’r Almaenwyr a ddaliwyd gan y 49fed Adran. Roedd yn rhaid i’r arloeswyr ddoed yn filwyr troed eto a gorchmynnwyd iddynt ddal y llinell tan y bore trannoeth. Cafodd 14 o ddynion eu lladd neu eu hanafu a bu’r Ail Is Gapten Straker o’r Fenni farw yn ddiweddarach o’i glwyfau. Ar 9 Gorffennaf, helpodd Cwmnïau A a D i wrthsefyll ymosodiad arall gan yr Almaenwyr a dyfarnwyd cardiau dewrder i bedwar o ddynion. Ar 16 Gorffennaf bu tanio mawr yn erbyn Cwmni B tra’u bod yn trwsio cronfa ffrwydron a chafodd 19 o ddynion eu lladd neu eu hanafu.

Treuliodd y bataliwn y cyfan o fis Gorffennaf mewn brwydr a chollwyd llawer o ddynion. Ar 4 Awst derbyniwyd newyddion ei bod yn awr yn amhosibl i gyfnerthu’r Gatrawd Sir Fynwy yn ei chyfanrwydd ac y byddid yn datgymalu’r 3ydd Bataliwn i gyflenwi milwyr ar gyfer y 1af a’r ail.

Anerchwyd parêd ffarwel gan yr Uwch Gapten-Gadfridog Percevel ar 8 Awst. Ar 14 Awst, gadawodd 200 o ddynion i ymuno â’r 2il Fataliwn ac ar 24 Awst gadawodd y gweddill i ymuno â’r 9fed Entrenching Battalion – cawsant wedyn eu trosglwyddo i fataliynau y Gatrawd Gymreig a’r Ffiwsilwyr Cymreig. Roedd y 3ydd Mons wedi eu datgymalu.

Tri Arwr o Cwm

Fore 19 Rhagfyr tra yn y rheng flaen ar Gamlas Yser,  taniwyd yn drwm ar y bataliwn gydag ymosodiad nwy phosgene i ddilyn. Symudodd pob un o’r pedwar cwmni i’r ffosydd i gyfnerthu’r rheng flaen yn erbyn ymosodiad disgwyliedig yr Almaenwyr. Ni ddaeth yr ymosodiad ond taniwyd yn erbyn y bataliwn bob dydd drwy’r noson ddilynol a chafodd 40 o ddynion eu lladd neu eu hanafu. Dyfarnwyd y D.C.M. i’r M.M. i’r Is-Gorporal Dixon a’r Preifat Powell  Cwm am achub dynion wedi eu hanafu a dod â hwy drwy’r ffosydd drylliedig a thros y pontydd pren simsan ar draws y gamlas.

Un o’r dynion a anafwyd oedd y Preifat George Stanley Clist, hefyd o Cwm, oedd wedi dioddef yn wael o’r ymosodiad nwy. Ysywaeth ni fu arwriaeth ei achubwyr yn ddigon gan iddo farw’n fuan ar ôl mynd at ef i orsaf wisgo gyfagos.

Llyfryddiaeth

Dixon, J. a J. 1991. With Rifle and Pick (Cwm: yr awduron)