Adeiladwyd Ffordd Gledrau Trefil yn 1793 (Ratternbury, 64) i gario carreg galch o Chwareli Trefil i’r gwaith haearn yn Beaufort (sefydlwyd 1780) a Glyn Ebwy (sefydlwyd 1790). Adeiladwyd is-gangen o Waith Haearn Beaufort i Gwm Gwybedog ac mae’n gorwedd yn rhannol dan Deras Rhaglaw, Beaufort (Rattenbury, 74). Ym Mehefin 1796, roedd Gwaith Haearn Glyn Ebwy angen 16 tunnell o garreg galch bob dydd a chariwyd hyn ar hyd y ffordd gledrau o Drefil mewn dwy siwrnai bob dydd ar bedair wagen haearn 2-dunnell a dynnwyd gan geffylau (Grey-Jones, 44). Rhwng 1796 a 1816, rheolwyd Gwaith Haearn Beaufort gan Joseph Latham, a wasanaethodd hefyd fel Clerc a Thrysorydd i Ffordd Gledrau Trefil (Rattenbury, 48).
Parhaodd y chwareli i gyflenwi carreg galch i waith Glyn Ebwy drwy gydol y 19fed a’r 20fed ganrif. Yn 1908, troswyd Ffordd Gledrau Trefil yn rheilffordd gul gyda dau locomotif a wagen hoper yn dod â charreg galch i’r ffwrneisi (Grey-Jones, 185).
Ychydig i orllewin stad ddiwydiannol Rassau (yn SO 1387 1173) , mae rhediad o sliperi carreg mewn cyflwr da ac yn eu safle. Mae Sliperi I a III wedi eu gosod ar bellter rheolaidd o 0.75m. Mae Sliper I (y mwyaf gorllewinol) yn mesur 60cm wrth 30m, mae sliperi II a III yn 50cm wrth 30cm, Sliper IV tua 6m i’r dwyrain o sliper III ar SO 1387 1172 (399m OD) ac yn mesur 50cm wrth 52cm.

Cyfeiriadau
Grey-Jones, A. 1970. A History of Ebbw Vale (Rhisga: yr Awdur)
Rattenbury, G. 1980. Tramroads of the Brecknock and Abergavenny Canal (Oakham: Railway and Canal Historical Soc.)




