Ardal Prif Gynnwys

Tramffordd Bryn Oer

Bryn Oer Tramroad
Adeiladwyd Tramffordd Bryn Oer rhwng Medi 1814 ac Ebrill 1815 i gysylltu darnau glo Bryn Oer a chwareli Trefil gyda Chamlas Brycheiniog a’r Fenni yn Nhalybont ar Wysg.

Cafodd y rhannau i’r de o ffordd Blaenau’r Cymoedd eu dinistrio gan weithiau glo brig, ond medrir olrhain y dramffordd o ymyl dwyreiniol Stad Ddiwydiannol Tafarnau Bach yn Fferm Ty Gwyn. Oddi yma mae’n mynd tu cefn i Ty Newydd ac yn croesi Fferm Penrhyn (SO 1266 1311) fel gwrych cyn dod i  SO 1271 1143.  O’r pwynt hwn mae’r dramffordd wedi ei gorchuddio gan y ffordd tarmac sy’n rhedeg drwy Trefil. Yn Ffos y Wern (SO 1113 1500), daw’r dramffordd i’r amlwg o’r ffordd ac aiff o amgylch pen Dyffryn Crawnon. Mae’n croesi dros y bryn ym Mhen Rhiw Calch (SO 1012 1765) ac wedyn mynd i lawr i Glyn Collwn a heibio Fferm Dan y Wenallt (SO 1079 2168) cyn cwrdd â’r gamlas yng Nghei Talybont (SO 1158 2251) [Rattenbury 1980, 123-127].

Ar ochr orllewinol y Dramffordd ar gyrion Trefil mae twmpath siâp-D, wedi’i gyflunio o’r dwyrain i’r gorllewin ac yn 105m wrth 10m o ran maint, a 3m o uchder. Adeiladwyd y safle fel twmpath arolygu pan adeiladwyd Tramffordd Bryn Oer rhwng Medi 1814 ac Ebrill 1815.


Cyfeiriadau
Rattenbury, G.  1980.  Tramroads of the Brecknock and Abergavenny Canal (Oakham: Railway and Canal Historical Society), tt. 98-127.

 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk