Er ei bod wedi ei gorchuddio gan wyneb concrit a bod ganddi ganllaw modern a ffens, mae Pont Aber-big yn enghraifft dda o bont ceffylau pwn o’r 17eg ganrif ac yn cynnwys un bwa carreg, tua 10.5m o hyd, 2.2m o led.
Mae’r cofnod cynharaf o’r bont y gwyddys amdano mewn arolwg o ffiniau ac arferion maenor Wentsland a Bryngwyn (yr oedd plwyf Llanhiledd yn rhan ohono) a ddyddiwyd 1659:
“a river there called Eboth which said Brook and River are the mears Between the parish of Lanhilleth and parish of Mynuthusloin and so upward . . . to a place called Cymmarddwy Eboyth which is the meeting of two Rivers of that name in which place are the meeting of Three parishes that is to say Lanhilleth, Aberustruth and Mynuthusloin and so along the river called Eboyth vychan to the middle of a bridge there called Pont y Cymmar and from thence as the Highway leadeth towards the parish Church of Lanhilleth . . .”(Bradney, p. 465)
Adeg honno, enw’r bont oedd “Pont y Cymmer”. Y cymer dan sylw oedd uniad afonydd yr Ebwy Fawr a’r Ebwy Fach a ffurfiau’r ffin rhwng plwyfi Aberystruth a Llanhiledd. Erbyn 1775, fe’i gelwid yn Bont Llanhiledd ac mae llyfr cofnodion a chyfrifon plwyf Aberystuth (GRO D.739 Cyf 1) yn cofnodi atgyweiriadau a wnaed yn y flwyddyn honno gan John Watkins ar gost o 12 swllt, un geiniog a dimai! Yn 1779, cofnododd Edmund Jones fod deg pont garreg ym mhlwyf Aberystruth (Jones, t.56). Pont Aber-big yw’r unig un ohonynt sydd wedi goroesi.
Yn ôl traddodiad lleol, bu John Wesley, sylfaenydd Methodistiaeth, yn pregethu wrth y bont. Fodd bynnag, er i John Wesley ymweld â’r plwyf yn Ebrill 1740 yn ystod ei ail ymweliad â Chymru, nid yw’n sôn am y lle un ai yn ei ddyddiadur na’i ddyddlyfr. Ar ddydd Mawrth 8 Ebrill, yng nghwmni Howell Harris, teithiodd o Bontypwl i Lanhiledd a phregethu yno ar y testun “ “I know that in me dwelleth no good thing”. Arhosodd dros-nos a’r bore trannoeth darllenodd weddïau yn Eglwys Sant Illtyd cyn pregethu ar “I will heal their backsliding, I will love them freely”. Yna aeth yn ei flaen i Gaerdydd (Williams, tt. 6-7).
Erbyn 1838, roedd Tramffordd Sir Fynwy, a redai o Waith Haearn Nantyglo i Gasnewydd, yn rhedeg heibio’r bont ar lan dwyreiniol yr Ebwy Fach (GRO D.397.390). Dengys map degwm 1843 ar gyfer plwyf Llanhiledd (GRO D.1163) fod William Webb eisoes wedi sefydlu ei fragdy a thafarn ger pen dwyreiniol y bont.
Cyfeiriadau
Bradney, J. A. 1906. A History of Monmouthshire: The Hundred of Abergavenny, Cyfrol I, Rhan 2b (9 cyfrol, atg. Academy Books, 1992).
GRO Doggfennau Swyddfa Cofnodion Gwent: D.397.390, D.1163, D.739 Cyf I.
Jones, E. 1779. A Geographical, Historical and Religious Account of the Parish of Aberystruth (Trefeca).
Williams, A. H. 1971. John Wesley in Wales 1739-1790: Entries from his Journal and Diary relating to Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).




