Rhestr Cofebion Hynafol

Cholera Cemetery, Tredegar

Fel rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cadw yn paratoi rhestr o gofebion hynafol a hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae bod ar y rhestr yn rhoi amddiffyniad ffurfiol i gofebion o bwysigrwydd cenedlaethol, gyda’r nod o gadw ein cofebion hynafol pwysicaf ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gall cofeb fod yn unrhyw beth o garn gynhanesyddol i orsaf radar o’r Ail Ryfel Byd – y prif wahaniaeth rhwng cofebion hanesyddol a restrwyd ac adeiladau rhestredig yw nad oes neb mwyach yn byw mewn cofebion hynafol rhestredig neu ni chânt eu defnyddio ar gyfer eu pwrpas gwreiddiol.

Nid yw bod ar y rhestr yn effeithio ar berchnogaeth ac nid yw’n dodi unrhyw hawl mynediad awtomatig i’r cyhoedd, ond y mae’n ymestyn rhywfaint o amddiffyniad cyfreithiol i safle. Mae gweithgareddau a fedrai achosi difrod, dymchwel neu ddifetha cofeb hynafol rhestredig (yn cynnwys unrhyw weithiau atgyweirio, symud, newid ac ychwanegiad, neu unrhyw lifogydd neu dipio) angen caniatâd ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol (a elwir yn ganiatâd cofeb rhestredig).

Mae gan Fwrdeistref Sirol Blaenau Gwent saith cofeb hynafol rhestredig o bwysigrwydd cenedlaethol ar hyn o bryd:

Injan Inclein Pyllau Bedwellte
Mynwent Colera Cefn Golau
Lefel Lo Clydach
Bwa Hafod (Rheilffordd Clydach)
Injan Bwmpio Glofa’r Marine
Twmpath Sant Illtyd
Gweithiau Haearn Sirhywi

Fodd bynnag, wrth i wybodaeth o dreftadaeth gyfoethog y fwrdeistref gynyddu, gobeithir y caiff pwysigrwydd cenedlaethol mwy o safleoedd lleol eu cydnabod yn y ffordd hon.