Mae gan Flaenau Gwent dreftadaeth gyfoethog, gyda phob tref a phentref â llawer o straeon i’w hadrodd am eu gorffennol.
Mae nifer o lwybrau ar hyd a lled y Fwrdeisdref yn cynnwys hanes lleol, lleoedd o ddiddordeb a ffeithiau lleol.
Yn ogystal ag i haneswyr, mae’r llwybrau hyn hefyd o ddiddordeb i ymwelwyr a phobl leol sy’n ymfalchïo mewn gwybodaeth am eu cefndir a’u bro.




