Golff Parc Bryn Bach

Cwrs Golff Parc Bryn Bach

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi agor ei gwrs golff 9 twll, par 3 yn swyddogol. Derbyniwyd arian i gyllido'r lleoliad gwych hwn gan Raglen Blaenau'r Cymoedd, rhaglen dwristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, cronfa adfywio Corus, Cyngor Chwaraeon Cymru a rhaglen gyfalaf Cyngor Blaenau Gwent.

O'r cwrs, cewch olygfeydd godidog o Dredegar a Chwm Sirhowy i'r dwyrain a Chwm Rhymni i'r gorllewin sydd yn cynnig cefndir darluniadwy ar gyfer cwrs a gafodd ei gynllunio i fod yn addas i bawb. Mae pob twll yn un par 3 (185 llath yw'r un hiraf) a bydd y cwrs, ei byllau tywod a'i nodweddion dwr yn apelio at unrhyw un sydd a chwant i ddatblygu ei gem ac i chwaraewyr golff o bob oedran.

Mae Parc Bryn Bach yn cynnig lleoliad ar gyfer cwrs 9 twll, 6 maes ymarfer ac ardal pitsio a phytio ert mwyn datblygu eich gem fer.

                            

Prisoedd

Ffioedd Cwrs Golff (Oedolyn)     £5.65
Ffioedd Cwrs Golff (Plentyn)    £2.80
Llog Grwp / Twrnment Hanner         £84.55
Llog Grwp / Twrnment Llawn          £169.15

Oriau Agor

Dydd Llun – Dydd Sul   Y Gaeaf        10.00yb – 4.00yp (mynediad olaf 3.00yp)
Dydd Llun – Dydd Sul   Y Gwanwyn   10.00yb - 6.00yh  (mynediad olaf 5.00yp)
Dydd Llun - Dydd Sul   Yr Haf             10.00yb – 8.00yh (mynediad olaf 7.00yh)


Parc Bryn Bach   01495 711816


Bydd modd llogi clybiau golff gan y parc yn fuan