Pontydd i Waith

Meithrin eich hyder, cymhelliant, sgiliau a chyflogadwyedd.

Beth yw Pontydd i Waith?

Prosiect wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yw Pontydd i Waith, yn gweithio ledled Blaenau Gwent.

Nod y prosiect yw rhoi cymorth i bobl leol ennill y sgiliau a magu'r hyder i'w helpu i symud tuag at waith.

Sut mae'r prosiect yn gweithio?

Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent, heb fod mewn addysg llawn amser, heb fod yn gweithio neu'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos yna bydd Pontydd i Waith yn cynnig canllawiau a chymorth i'ch helpu i symud yn agosach at waith. Fel rhan o'r prosiect Pontydd i Waith gallwch gael mynediad i gyfleoedd dysgu am ddim i'ch helpu i ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nodau.

Ymysg y cyfleoedd dysgu sydd ar gael mae:

   

  • Hyfforddiant Cysylltiedig â Swydd
  • Magu Hyder
  • Cyrsiau TG
  • Gwella eich Saesneg a'ch sgiliau Mathemateg
  • TGAU Saesneg a Mathemateg
  • Ieithoedd - gan gynnwys Cymraeg ac Iaith arwyddion
  • Cymorth Cyntaf
  • Codi a Chario
  • Diogelwch Bwyd
  • Technegau Harddwch
  • Crefftau Creadigol
  • Cyflwyniad i ffotograffiaeth ddigidol


Sut y byddaf ar fy ennill?

Mae'r holl gyfleoedd dysgu am ddim, mewn lleoliadau cymunedol a chewch y cyfle i ennill cymwysterau dysgu ffurfiol.

Gallwch hefyd gael budd o gymorth unigol gan swyddogion dysgu a datblygu yn y gymuned y prosiect yn ogystal â chynlluniau gweithredu dysgu personol, datblygiad sgiliau sylfaenol a darpariaeth gofal plant.


 

Manylion Cyswllt

Pontydd i Waith
Canolfan Adnoddau Rasa
Ffordd yr Ysgol
Rasa
Glynebwy NP23 5PP 

Rhif ffôn 01495 309951