Ardal Prif Gynnwys

Amgueddfeydd Lleol

Amgueddfa Abertyleri a'r Cylch
Y Metropole
Stryd y Farchnad
Abertyleri
NP13 1AL
Ffon: 01495 211140

Mae gan Abertyleri ystod eang o arteffactau o bob cyfnod fodd bynnag, y mae ganddynt gasgliad hynod o arteffactau yn ymwneud a chloddio.

Oriau Agor:
Dydd Llun i Ddydd Iau 10.00yb -1.00yp a 2.00yp - 4.00yp
Dydd Gwener i Ddydd Sadwrn 10.00yb - 1.00yp

Efallai y bydd yr amgueddfa ar gau o ganlyniad i waith adnewyddu felly dylech chi ffonio cyn ymweld a hi.
Mynediad llawn ar gyfer pobl anabl oddi ar Stryd y Farchnad.

Amgueddfa Blaenau a'r Cylch
Sefydlaid Blaenau
Blaenau
NP13 3BN
Ffon: 01495 292025

Mae'r amgueddfa gelf newydd sbon hon yn cael ei rheoli gan Grwp Gweithredu Treftadaeth Blaenau. Mae'r amgueddfa yn arddangos treftadaeth a hanes Blaenau a'r ardal leol. Mae'r cyfleuster yn cynnwys arddangosiadau newydd sbon ar y diwydiant glo a haearn, capeli, ysgolion, cymdeithasau lleol, pobl leol enwog ac o'r byd chwaraeon a chegin Gymreig Oes Fictoria. 

Oriau Agor:
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener 10.00yb - 12.00yp a 2.00yp - 4.00yp
Dydd Mercher - 9:30yb - 12.00yp
Nos Iau - 6.00yh - 8.00yh

Mynediad llawn ar gyfer pobl anabl

Amgueddfa Brynmawr a'r Cylch
Stryd Alma
Brynmawr
NP23 4AJ

Ffon: 01495 313900

Mae'r amgueddfa hon yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Amgueddfa Brynmawr a'r Cylch ac wedi ennill gwobr Cymdeithas Adeiladu Nationwide am Ymdrech Cymunedol. Mae ganddi gasgliad amrywiol o arteffactau bob dydd yn cynnwys casgliad o Gelfi Brynmawr wedi'i gynhyrchu gan un o'r diwydiannau bychain a gafodd ei sefydlu gan y Crynwyr yn Arbrawf Brynmawr.

Oriau Agor:
Dydd Iau a Dydd Gwener 10.00yb -1.00yp a 2.00yp - 4.00yp
Dydd Sadwrn 10.00yb -1.00yp

Mae'r amgueddfa ar ddau lawr ond mae mynediad llawn ar gyfer pobl anabl.

Amgueddfa Hanes Lleol Tredegar a Llyfrgell Tredegar
Y Cylch
Tredegar
NP22 3PS
Ffon: 01495 722687

Mae'r amgueddfa yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Hanes Lleol Tredegarac y mae ganddi gasgliad hynod o arteffactau yn adlewyrchu hanes Haearn, Glo a Chwarelu Blaenau Gwent. Hefyd, y mae gan yr amgueddfa gasgliad ardderchog o hen ffotograffau.

Oriau Agor:
Dydd Sadwrn 10.00yb -1.00yp ac 1.00yp - 4.00yp

Mynediad llawn ar gyfer pobl anabl.

 

 

 
 
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, NP23 6XB Tel: 01495 350555 E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk