Trwydded - gweithredwyr huriad preifat

Mae’r Tîm Trwyddedu yn gyfrifol am drwyddedu a gosod amodau ar gyfer gweithredwyr cerbydau hur preifat i sicrhau fod y person sy’n gyfrifol am gyflenwi cerbydau a gyrwyr yn berson ‘ffit ac addas’.

Mae unrhyw un sy’n dymuno cychwyn busnes tacsi, ac sy’n bwriadu darparu cerbydau hur preifat, neu gyfuniad o gerbydau hur preifat a cherbydau hacni, angen trwydded gweithredwyr. Lle bynnag y bwriadwch weithredu’r busnes ohono, gallwch fod angen caniatâd cynllunio gan adran gynllunio’r Cyngor, y codir ffi amdano, a chaniatâd landlord os ydych yn rhentu’r safle.

Y ffi cais am drwydded gweithredydd yw £80 ac mae’n ddilys am un flwyddyn. I benderfynu os medrir rhoi trwydded, rhaid cynnal gwiriad ar gofnodion troseddol ac mae ffi’n daladwy ar gyfer hynny hefyd. Os rhoddir trwydded, bydd amodau arni, e.e. rhaid cadw cofnod o bob archeb, rhaid i gofnodion fod ar gael am chwe mis a chael eu dangos pan wneir cais i swyddog o’r Cyngor neu swyddog o’r heddlu.

Bydd angen gwiriad cofnodion troseddol bob tair blynedd.
    

Manylion Cyswllt

Yr Adran Trwyddedau
Swyddfeydd Rhanbarthol CBSBG
Stryd Beaufort
Brynmawr
NP23 4AG

Ffon: 01495 355961
Ffacs: 01495 355245

Gweithredir system apwyntiadau. Os hoffech chi ymweld a ni er mwyn cyflwyno cais neu dderbyn cyngor dylech chi ffonio o flaen llaw er mwyn trefnu dyddiad ac amser cyfleus. 

Ebost : licensing@blaenau-gwent.gov.uk