Sut wyf i yn ymuno?
Mae ymuno gyda’r llyfrgell yn syml os ydych yn byw, gweithio neu yn astudio ym Mlaenau Gwent. Yr oll i ni yn ei ofyn yw eich bod yn darparu rhyw fath o dystiolaeth i ni, a ddylai fod yn ddogfen swyddogol yn dangos eich enw a’ch cyfeiriad. Mae bil cyfleustodau, trwydded yrru, a phasbort ayb yn cael eu hystyried yn ddogfennau dilys.
Plant
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer plant. Mae pob ffurflen gais ar gyfer aelodaeth plant a phobl ifanc o dan 16 yn gofyn am lofnod rhiant neu warchodwr.
Ble allaf i ddefnyddio fy ngherdyn llyfrgell?
Gallwch chi ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell mewn unrhyw un o’r llyfrgelloedd o fewn Blaenau Gwent. Golyga hyn y gallwch fenthyg eitemau a’u dychwelyd i unrhyw un o’r llyfrgelloedd e.e. gall eitemau sydd wedi eu benthyg o Dredegar gael eu dychwelyd i Brynmawr os ydych yn dymuno felly.
Sawl eitem gallaf eu benthyg?
• cyfuniad o 10 llyfr a/neu Lyfrau ar Dâp am hyd at 3 wythnos
• 5 o eitemau cerddoriaeth am hyd at 1 wythnos
• 5 DVD's am hyd at 1 wythnos
• 1 gêm Playstation am hyd at 1 wythnos
Faint yw’r gost?
Mae benthyg llyfrau am ddim.
rhaid talu am fenthyg CD’s, casetiau, DVDs, fideos, a chyrsiau iaith, ond gall fod heb elfen o daliad i berson sydd â hawl i ostyngiadau.
Os ydych dros 18 byddwch hefyd yn gorfod talu am ddychweliadau hwyr gan gynnwys llyfrau.
Os ydych am wybod os ydych â hawl i unrhyw ostyngiad gofynnwch i aelod o staff y llyfrgell os gwelwch yn dda.





