Rydych chi fyth yn rhy ifanc i ymweld â’ch llyfrgell!
Mae rhannu llyfrau o oedran ifanc iawn yn sbri a bydd yn helpu plant i ddysgu i siarad ac yn hwyrach i ddarllen yn fwy hawdd. Mae plant sydd yn gwrando ar storiâu yn dysgu llawer o eiriau a brawddegau newydd. Mae hyn yn rhoi cychwyn da iddynt pan maent yn mynd i gylch chwarae, meithrinfa neu ysgol.
Wrth i’ch plentyn dyfu a datblygu bydd yna lawer o bethau i ddysgu amdanynt. Lliwiau, siapau, maint a rhifau. Mae gan y llyfrgell lyfrau sydd yn ymdrin gyda sefyllfaoedd arbennig - ysbytai, deintyddion, a chychwyn ysgol.
Gallwch ymchwilio'r bydoedd newydd yma gyda’ch gilydd drwy rannu llyfr. Helpwch eich plentyn i ganfod y pleser o ddarllen.
Mae llyfrgelloedd yn llefydd gwych i gael sbri, gwneud eich gwaith cartref neu i gyfarfod gyda’ch ffrindiau. Os nad ydych yn aelod o lyfrgell cymerwch gip ar yr hyn sydd gyda ni i’w gynnig neu gofynnwch i aelod o staff am ffurflen aelodaeth y tro nesaf i chi yno.
Beth fyddaf yn darganfod yn fy llyfrgell?
- Llyfrau Lluniau
- Llyfrau Stori
- Llyfrau a Thap
- Llyfrau Gwybodaeth
- Llyfrau yn y Gymraeg
- Llyfrau Llythrennau Bras
- DVD's
- Cerddoriaeth
- Gemau Playstation
- Mynediad Rhyngrwyd
- Cyfrifiaduron
- Gemau Xbox 360
- Gemau Nintendo Wii
Sut i ymuno
Gall plant ymuno gyda’r llyfrgell ar unrhyw oed. Mae’n hollol RHAD AC AM DDIM, dewch â phrawf o’ch enw a’ch cyfeiriad. Gall plant gael eu tocynnau eu hunain a gallant fenthyg hyd at 10 deg llyfr am 3 wythnos. Nid yw llyfrgelloedd yn codi tâl ar gyfer benthyciadau plant, ond cadwch os gwelwch yn dda eich llyfrau’n ddiogel a’u dychwelyd yn nol ar amser.
Rydym am i chi fwynhau llyfrgelloedd o oedran ifanc, nawr bod eich plentyn yn ymuno gyda’r llyfrgell – pam na wnewch chi?





