Oherwydd gweithredu diwydiannol bydd pob llyfgrell ar gau ddydd Mercher, 30ain Tachwedd 2011
Ailwampio Llyfrgell Blaenau ar gost o £62,000
Mae Llyfrgell Blaenau yn dangos gwedd newydd i gwsmeriaid ar ôl ei ailwampio ar gost o £62,000.
Diolch i gyllid o raglen CyMAL Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi trawsnewid y llyfrgell gyda chelfi a silffoedd newydd, cownter staff newydd, cynllun lliw newydd egniol a mynediad llawn i’r anabl. Mae llyfrau newydd, gemau cyfrifiadur a llyfrau sain digidol ar gael i’w benthyg.
Dywedodd y Cyng Jason Owen, Aelod Gweithredol dros Hamdden a Diwylliant:
“Rydym eisiau i bawb ailddarganfod eu llyfrgell leol, ac rydym yn adfer ein llyfrgelloedd i ddarparu’r cyfleusterau gorau a mwyaf modern.”
Croeso i Lyfrgelloedd Blaenau Gwent
Mae gennym bedair llyfrgell lawn amser a dwy ran amser, Gwasanaeth Dosbarthu i'r Cartef a Llyfrgell Symudol felly rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i bawb sydd yn byw, gweithio neu'n astudio o fewn Bwrdeistref Blaenau Gwent.
Rydym yn gobeithio bod y gwasanaeth yn cynnig "rhywbeth i bawb" ac, efallai, y byddwch chi'n cael eich synnu gan rai o'r pethau rydym yn eu cynnig! O lyfrau i CDiau, DVDs, gemau Playstation 3 i'w lllogi, mynediad i'r rhyngrwyd i aelodau a'r rhai nad ydynt yn aelodau mae Llyfrgelloedd Blaenau Gwent yn cynnig ystod o gyfleusterau.
Mae croeso i chi fynd ar ein gwefan a rhoi eich atborth i ni.
Newyddion Diweddaraf y Llyfrgelloedd
Monday 10 - 12.30 & 1.30 - 5.30
Thursday 10 - 12.30 & 1.30 - 5.30
Friday 10 - 12.30 & 1.30 - 6.30
Saturday 9.30 - 12.30





