Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn cynnal nifer o fannau celfyddydau a hefyd yn darparu ystod eang o weithgareddau celf ar draws y Fwrdeisdref Sirol.
Mae pedair prif ganolfan gelfyddydau ym Mlaenau Gwent - Theatr a Dawnsfa Beaufort, Glynebwy, Theatr Gymunedol Abertyleri, Sinema Neuadd y Farchnad, Brynmawr a Chanolfan Ddiwylliannol a Chynadledda’r Met yn Abertyleri. Mae pob lleoliad yn cynnal sioeau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae Sinema Neuadd y Farchnad, Brynmawr yn lleoliad ardderchog i weld y ffilmiau poblogaidd diweddaraf ar y sgrin fawr.
Mae Datblygu Celfyddydau Blaenau Gwent yn darparu detholiad gwych o raglenni a phrosiectau strwythuredig drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys y celfyddydau gweledol, dawns a drama.
I gael manylion llawn ar unrhyw un o’r lleoliadau uchod, defnyddiwch ddolen Gwefan Canolfannau Blaenau Gwent ar law dde'r dudalen hon.
![]()
![]()
![]()