I ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid rhwng 1 a 7 Tachwedd 2011, trefnodd Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent amrywiaeth cyffrous o weithgareddau a gynhaliwyd yn ychwanegol i'w rhaglen arferol o ddigwyddiadau wythnosol.
Bu gweithdai cerfio pwmpen yn profi sgiliau creadigol pawb wrth i res o wynebau pwmpen arswydus lenwi ystafelloedd yr EVI.
Cynhaliwyd Noswaith Ieuenctid Open 4 yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed. Am ffi mynediad o £1 cafodd cyfranogwyr ddefnyddio'r gampfa, pwll nofio, llithrennau dwr a neuadd chwaraeon yn ogystal ag amrywiaeth o weithdai celf trefol, gweithgareddau chwaraeon a gemau Wii.
Trefnwyd trip gwych ar 4 Tachwedd a alluogodd grwp o bobl ifanc i edrych ar Ddreigiau Casnewydd yn chwarae yn erbyn Gleision Caerdydd gartref yn Stadiwm Rodney Parade.
I gael mwy o wybodaeth ar yr Wythnos Gwaith Ieuenctid neu unrhyw un o'n gwasanaethau eraill cysylltwch â ni ar 01495 355811.




