Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn rhoi gwybodaeth, arweiniad a chyngor i bobl ifanc 11-25 oed. Rydym yn dîm o weithwyr ieuenctid gyda chymwysterau a gweithiwn mewn gwahanol leoedd ar draws Blaenau Gwent i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc. Ein dull gweithredu yw trin pobl ifanc gyda pharch, gan hyrwyddo a pharchu eu hawliau i wneud eu penderfyniadau a’u dewisiadau eu hunain a gweithio gyda hwy i’w helpu i aros yn ddiogel.
Gweithiwn y tu mewn a hefyd y tu allan i ysgolion gan gynnig cefnogaeth, gwahanol ffordd o ddysgu a chyfle i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Os nad ydych yn sicr beth ydym yn ei wneud, dyma rai o’n gwahanol feysydd gwaith:
· Gweithwyr ieuenctid Oasis mewn ysgolion,
· Cwnselwyr ysgolion a kooth.com (gwasanaeth cwnsela ar-lein),
· D of E (gynt Gwobr Dug Caeredin)
· Tîm Ieuenctid Dieithredig yn gweithio ar y strydoedd
· Gweithwyr ieuenctid 14 – 19 Prevent
· Clybiau ieuenctid yn Abertyleri, Cwm, Brynteg a Blaenau
· Iechyd a lles rhywiol
· Prosiect Engage
· Prosiectau haf e.e. Celf a Chyfryngau
· Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr ieuenctid
· Cyrsiau gydag achrediad ar gyfer pobl ifanc
Rydym yn awyddus i weithio gyda phobl ifanc am yr hyn sy’n bwysig iddynt – felly cysylltwch â ni!
Os hoffech gymryd rhan neu gael mwy o wybodaeth yna cysylltwch â’r Gwasanaeth Ieuenctid ar 01495 355811




